Mae Awdurdod S4C yn mynd i geisio am Adolygiad Barnwrol i’r penderfyniad i roi arian y sianel yn nwylo’r BBC.

Mewn datganiad heddiw, maen nhw’n dweud bod y penderfyniad “i bob pwrpas” yn golygu cyfuno S4C gyda’r Gorfforaeth.

Maen nhw’n dweud y bydd y penderfyniad yn “rhoi rheolaeth tros ariannu a gweithgareddau S4C i’r BBC”.

Yn ôl Cadeirydd yr Awdurdod, John Walter Jones, mae’r Llywodraeth yn Llundain wedi dangos “agwedd sarhaus” at y sianel a phobol Cymru trwy fethu â rhoi gwybod am y cynllun “difeddwl” ymlaen llaw.

Maen nhw hefyd yn gwrthwynebu toriadau yn arian y sianel sy’n cael eu cynllunio gan yr Ysgrifennydd Diwylliant a’r BBC yn Llundain gan ddweud y byddan nhw’n cael “effaith drychinebus” ar wylwyr yng Nghymru.

Datganiad S4C

Dyma union eiriau John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C:

“Fe fydd effaith y toriadau ariannol sydd wedi eu cytuno gan Jeremy Hunt a’r BBC yn cael effaith drychinebus i wylwyr yng Nghymru mewn cyfnod lle mae’r BBC eisoes wedi torri eu gwariant ar raglenni Cymraeg a Saesneg yng Nghymru.

“O dan drefniant o’r fath fe fyddai rhaglenni teledu Cymraeg yn gorfod cystadlu am adnoddau gyda phob un o wasanaethau’r BBC ac y mae Awdurdod S4C o’r farn y byddai hyn yn peryglu gwasanaethau teledu Cymraeg.

“Rydw i’n rhyfeddu at yr agwedd sarhaus y mae Llywodraeth Llundain wedi’i dangos nid yn unig tuag at S4C ond hefyd tuag at bobl Cymru ac i’r iaith ei hun.

“ Fe gefais wybod am y cynlluniau difeddwl hyn gan Mr Hunt a chael gwybod hefyd ei fod yn gytundeb nad oedd yn agored i drafodaeth a hynny dim ond wedi i’r wybodaeth gael ei ddarlledu ar y BBC neithiwr.

“Nid fel hyn y mae cynnal materion cyhoeddus ac mae’n dangos amarch tuag at y ffordd y dylid cynnal polisi cyhoeddus a’r broses ddemocrataidd.

“Mae Awdurdod S4C yn unfrydol yn ei ddymuniad i lansio Adolygiad Barnwrol o benderfyniad Jeremy Hunt a’r modd y gwnaed hynny tu ôl i ddrysau caeedig a heb unrhyw ymgynghori gydag S4C.”