Wel dyna oedd sioc. Doedd neb wedi gweld y peth yn dod. Wayne Rooney eisiau gadael Manchester United! Ond ta waeth am hynny…
Ail sioc fawr y diwrnod oedd y bydd y BBC yn cymryd y cyfrifoldeb am ariannu S4C. Mae rhywun yn gallu gweld beth aeth drwy feddwl Jeremy Hunt wrth wynebu haid o brotestwyr Cymdeithas yr Iaith ar ei stepan drws. “Duw, mae trio torri cyllideb y sianel yma’n fwy o drafferth nac o werth. Beth am drosglwyddo’r penderfyniadau amhoblogaidd i rywun arall?”
Mae’n bosib, yn ôl gwefan y BBC ei hun, bod Llywodraeth San Steffan wedi penderfynu mai dyma’r trefniant newydd ac wedi gadael y ddau ddarlledwr i frwydro dros y manylion ymysg ei gilydd.
Dyw Jeremy Hunt ddim yn gefnogwr brwd i’r BBC chwaith, ac wedi ymosod ar y drwydded teledu yn y gorffennol, felly dyma gyfle i roi tolc i’r gorfforaeth hwnnw hefyd.
Beth bynnag am y cymhelliad, yn ôl beth sy’n hysbys heno fe fydd S4C yn cadw ei ‘annibyniaeth’ ond bydd y BBC yn cael penderfynu faint o arian sydd ar gael i’w wario. Yr un annibyniaeth a phlentyn sy’n ddibynnol ar ei rieni am ei bres poced, felly.
Dyw hyn ddim yn golygu bod S4C wedi dianc gyda’i gyllideb yn gyflawn, chwaith. Mae’r llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi newid yn y ddeddf fel na fydd cyllideb S4C yn parhau i gynyddu yn unol gyda chwyddiant, fyddai’n lot o drafferth heb eisiau os ydi cyllideb y sianel am aros yr un fath.
Mae’n siŵr y byddai’r BBC yn ystyried toriad 16%, yr un toriad ac y bydd yn rhaid iddyn nhw ei wynebu dros y chwe blynedd nesaf, yn ddigon deg.
Bydd angen gwybod mwy o fanylion cyn penderfynu pa mor ddrwg yw’r newyddion i S4C, ond mae yna rai pryderon amlwg.
Un o’r pryderon pennaf, yn fy nhyb i, yw y bydd hyn gwneud S4C yn haws ymosod arno gan bobol sydd eisiau gweld cefn y sianel a’r drwydded teledu. Iawn, does yna ddim lot o wahaniaeth rhwng y cwestiynau “pam fod fy arian treth i yn cael ei wastraffu ar S4C?” a “Pam bod arian fy nhrwydded teledu yn cael ei wastraffu ar S4C?”. Ond mae arian trethi yn bethau reit niwlog tra bod y drwydded teledu yn fil sy’n disgyn drwy flwch llythyrau unwaith y flwyddyn.
Hefyd, er gwaethaf pwyslais gwleidyddion o Gymru ar geisio ehangu ffynonellau newyddion a rhaglenni’r wlad mae’r cyhoeddiad yma yn golygu y bydd mwy fyth o reolaeth gan un gorfforaeth Brydeinig.
Blogiau eraill sy’n trafod hyn: Blogmenai a Blog Guto Dafydd