Alun Ffred Jones
Ddylai dyfodol S4C ddim cael ei benderfynu trwy “stitch up” rhwng Ysgrifennydd Gwladol o Surrey a phenaethiaid y BBC yn Llundain, meddai Gweinidog Treftadaeth Cymru.
Yn ôl Alun Ffred Jones doedd dim ymgynghori wedi bod gyda Llywodraeth y Cynulliad cyn cyhoeddi y byddai’r BBC yn cymryd cyfrifoldeb am arian y sianel Gymraeg ac roedd “pobol Cymru’n cael eu gadael allan ohoni”.
Un o’r cwestiynau mawr i’w gofyn, meddai, yw pryd yr oedd Swyddfa Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol, Cheryl Gillan, yn gwybod am y bwriad.
Fe alwodd eto am drafodaeth lawn ar ddyfodol y sianel, gyda chyfle i ystyried beth fyddai’r patrwm gorau ar ei chyfer a sut y byddai modd talu am hynny.
Galw am arolwg
“Gadewch i ni gael arolwg annibynnol o S4C i gael gweld pa fath o fodel fyddwn ni’n gallu ei gynnig er mwyn rhoi rhaglenni Cymraeg i bobol Cymru, o bosib mewn ffordd wahanol.
“Gadewch i ni edrych wedyn pa fath o arian fydd ei angen i gyflawni hynny, yn hytrach na dweud ‘dyma’r arian’, beth allwch chi ei wneud efo hwnna.
“Ddylai dyfodol darlledu Cymraeg ddim cael ei benderfynu gan Ysgrifennydd Gwladol o Surrey, sy’n gwybod dim am Gymru, a phenaethiaid y BBC yn Lloegr.”
Dyw’r Llywodraeth yng Nghaerdydd ddim wedi cael unrhyw fanylion eto am y bwriad ond fe fydd pryder fod holl ddarlledu cenedlaethol Cymru bron yn mynd i ddwylo’r BBC.
Y grym yn nwylo’r BBC?
Er bod ffynonellau o fewn y Gorfforaeth yn dweud y bydd S4C yn cadw’i hannibyniaeth, fe fydd gwleidyddion eisiau sicrwydd nad yw gafael yng ngenau’r sach yn golygu bod y grym gan y BBC.
Os yw’r arian yn dod o gyfanswm arian y drwydded deledu, yr amheuaeth yw y byddai’n rhaid i’r Sianel ymladd o fewn y BBC neu yn erbyn y BBC i sicrhau ei chyfran o’r arian.
Yn ystod y blynyddoedd diwetha’, mae holl bleidiau gwleidyddol Cymru wedi pwysleisio’r angen am gael amrywiaeth ym maes darlledu, yn arbennig o ran newyddion.
Dyw hi ddim yn glir chwaith faint yr oedd y BBC yng Nghymru yn ei wybod – roedd Alun Ffred Jones wedi cael cyfarfod gyda nhw’n ddiweddar ond fu dim sôn am newid y drefn.
Yr wythnos ddiwetha’, fe gyhoeddodd BBC Cymru ac S4C eu bod yn mynd i gydweithio’n agosach – ond doedd dim sôn am roi arian y sianel yn nwylo’r Gorfforaeth.