“Beth yw’ch strategaeth chi i ennill Bro Morgannwg yn etholiad y Cynulliad?”

Cwestiwn digon diniwed gallech chi feddwl, gan mai fy nghyfaill o’r Western Mail, David Williamson oedd yn holi’r cwestiwn i Nick Bourne, a bod y Ceidwadwyr newydd gipio Bro Morgannwg oddi wrth Lafur yn yr etholiad cyffredinol. Ond dyw David ddim mor ddiniwed ag y mae rhai pobol yn meddwl ac ro’n ni newydd fod yn trafod Sain Tathan yn y briffing, Sain Tathan sydd yng nghanol etholaeth Bro Morgannwg ac sydd newydd glywed na fydd penderfyniad ar ganoli hyfforddi milwrol i’r safle milwrol yn y pentref yn cael ei wneud tan y gwanwyn ac na fydd y cwmni Metrix bellach yn ennill y cytundeb i ganoli’r hyfforddiant yno chwaith.

Ydyn ni’n gweld y miloedd o swyddi milwrol yn diflannu o flaen ein llygaid ni? Yw hi’n ta ta ar wella isadeiledd lonydd cul y Fro ac felly’n ta ta ar ddyfodol y ganolfan aerospace yn Sain Tathan hefyd? Dw i ddim yn gwybod, ac mae’n amlwg nad yw gwleidyddion Cymru’n gwybod chwaith. Mae Alun Cairns, yr AS gipiodd y Fro mor gyfforddus fis Mai, yn ymddangosiadol ffyddiog y daw y datblygiad i Sain Tathan ymhen hir a hwyr.

Ond fydd hynny’n rhy hwyr? 83 o bleidleisiau enillodd y Fro i Jane Hutt a Llafur yn 2007. Mae hi’n tampan yn ei datganiadau i’r wasg ynglyn â chyhoeddiad Sain Tathan, mae’n “devastating blow” i’r ardal mae’n debyg. Dim  cymaint felly i Jane Hutt o bosibl. Gallai penderfyniad y llywodraeth sicrhau gafael Llafur ar etholaeth Bro Morgannwg yn y Cynulliad. Newyddion da i un ceidwadwr hawddgar hefyd, diolch i’n system etholiadol. Ail i Andrew RT Davies ddaeth David Melding ar restr ymgeiswyr rhanbarth canol de Cymru’r Ceidwadwyr wedi ei hetholiad mewnol. Os yw’r Ceidwadwyr yn methu yn ei hymgyrch i gael Bro Morgannwg, mae’r tebygrwydd y bydd y blaid yn ennill dwy sedd restr yn uchel a bydd lluniwr maniffesto’r Ceidwadwyr yn parhau’n AC wedi mis Mai.

Beth arall oedd yng nghynhadleddau’r bore? Arolwg gwariant, arolwg gwariant, arolwg gwariant -a neb yn gwybod union fanylion yr arolwg hwnnw. Fe fydd Ieuan Wyn Jones yn clywed am doriadau’r Llywodraeth glymblaid yr un pryd â gweddill Prydain yfory, fel y bydd Nick Bourne a Kirsty Williams. Dim rhagrybudd i wleidyddion bach Cymru fel adrannau Whitehall.

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog yn addo y bydd y toriadau yn tagu Cymru ac yn ddiwedd y byd tra bod arweinydd y gwrthbleidiau’n unfarn mai bai Llafur yw’r holl broblem a beth bynnag, bydd y glymblaid yn San Steffan yn deg gyda’r fwyell. Fe fyddwn ni’n clywed y manylion gan George Osborne yfory, 12.30 o Dy’r Cyffredin. Bydd ymateb Llywodraeth Cymru yn dod yn hwyrach.

Un peth bach arall glywon ni bore ma yw y bydd ymgyrch Ie’n cael ei lawnsio yn y diwrnodau nesaf. Na, nid ar y bleidlais amgen (er mai dyna oedd pwnc cynhadledd i’r wasg y Democratiaid Rhyddfrydol i fod heddiw) ond Ymgyrch Ie refferendwm pwerau deddfu’r Cynulliad. Fe fydd y gorchymyn i gynnal y refferendwm ar Fawrth 3 hefyd yn cael ei osod yn fuan. Doedd Ieuan Wyn Jones ddim yn barod i fynd i fanylion pryd, sut na ble ond gwylier y gofod. Gyda’r ymgyrch Na eisoes wrthi, fe fyddai rhai’n dweud ei bod hi’n hen bryd.