Fe fyddai’n anodd iawn i Warren Gatland hyfforddi Cymru yn y Chwe Gwlad a hyfforddi’r Llewod yn Awstralia, yn ôl rheolwr y daith.

Ond mae Andy Irvine wedi awgrymu y gallai’r dyn o Seland Newydd gael cyfnod sabothol i arwain y tîm rhyngwladol yn Awstralia yn 2015.

Mae gan bwyllgor y Llewod amheuon dros benodi hyfforddwr a fyddai ynghlwm â Phencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2013, meddai Andy Irvine.

Ond fe ddywedodd y byddai trafodaethau gydag Undeb Rygbi Cymru i gael ei wasanaeth tros dro. Fe allai hynny olygu nad fyddai Gatland ar gael i hyfforddi Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2013.

Mae’r hyfforddwr newydd arwyddo cytundeb i barhau’n hyfforddwr Cymru tan 2015, a fyddai’r undeb yn hapus iawn i golli ei hyfforddwr yn ystod cyfnod mor bwysig.

Beth ddywedodd Irvine

“Dyw hi ddim yn ymarferol i brif hyfforddwr arwain ei dîm yn y Chwe Gwlad cyn y daith. Mae’n gofyn gormod,” meddai Andy Irvine.

“Fe fyddwn ni’n siarad gydag Undeb Rygbi Cymru i weld i ba raddau y byddai Gatland yn gorfod ymroi i Gymru yn ystod yr un amser â’r Llewod.

“Fe allai fod yn bosib hyfforddi’r Llewod a thîm cenedlaethol yn y Chwe Gwlad, ond mae’n annhebygol.

“Os na fyddai’n bosib rhyddhau Warren yn llawn o’i gyfrifoldebau gyda Chymru, fe fyddwn ni’n ceisio ei ryddhau’n rhannol.”

Dewis arall

Opsiwn arall i’r Llewod yw ceisio denu Ian McGeechan y nôl am un daith arall. Fe ddywedodd yr Albanwr mai’r daith i Dde Affrica’r llynedd oedd y ddiwethaf iddo ef.

Ond mae yna adroddiadau ei fod yn barod i newid ei feddwl a mynd ar ei wythfed daith.

Manylion y daith

Fe fydd yna naw gêm ar daith y Llewod i Awstralia gan ddechrau yn Hong Kong yn erbyn y Barbariaid.

Mae disgwyl i’r Llewod wynebu pedwar o bum tîm Super 15 Awstralia hefyd.

Mae Andy Irvine wedi datgelu bod taith i’r Ariannin yn bosibilrwydd yn y dyfodol – y tro cyntaf i’r Llewod fynd yno. Ond 2021 fyddai’r dyddiad cyntaf posib.

Llun: Warren Gatland