Roedd hon yn gêm dda iawn o bêl-droed rhwng dau dîm sy’n brwydro tua chanol Cynghrair Costcutter Ceredigion ar hyn o bryd.

Roedd hi’n gêm agos, ac yn gryno bu i Faesglas gymryd eu cyfleoedd tra bod Llanboidy yn wastraffus o flaen y gôl.

Aeth Maesglas ar y blaen yn ystod yr hanner cyntaf wrth i Lanboidy fethu a chlirio’r bêl yn effeithio a chael eu dal allan.

Llwyddodd Llanboidy yn fwrw nôl yn y funud gyntaf o’r ail hanner, wrth i Martin Owen rwydo.

Yn anffodus i Lanboidy, wnaethon nhw ddim dysgu o’u camgymeriadau yn yr hanner cyntaf, a’r canlyniad oedd gôl debyg iawn i’r gyntaf i Faesglas. Methodd y tîm cartref a chael gwared â’r bêl a gwnaeth ymosodwr Maesglas, Rhodri Jones, y gorau o’r cyfle.

Cafodd Llanboidy gyfleoedd i unioni’r sgôr ar ddiwedd yr ail hanner, ond methu a manteisio.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Maesglas yn neidio uwch ben Llanboidy i’r chweched safle yn y gynghrair.

Adroddiad gan Emyr Davies.