Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud nad ydyn nhw’n mynd i ymchwilio ar ôl i wraig Is-ganghellor newydd Bangor gael ei phenodi i swydd flaenllaw yn y Brifysgol.

Datgelodd Golwg 360 ddechrau’r mis bod gwraig yr Athro John Hughes, Dr Xinyu Wu, wedi ei phenodi i swydd Cyfarwyddwr Datblygu Rhyngwladol y Brifysgol.

Fe fuodd Dr Xinyu Wu yn gweithio ym Mhrifysgol Maynooth yng Ngweriniaeth Iwerddon, ble’r oedd ei gŵr, yr Athro John Hughes, yn Llywydd cyn iddo gael ei benodi i’w swydd ym Mangor.

Heddiw galwodd cyfarwyddwr undeb ATL Cymru, Dr Philip Dixon, ar Lywodraeth y Cynulliad i ymchwilio i’r penodiad.

Dywedodd Philip Dixon bod amgylchiadau penodi Xinyu Wu yn aneglur a bod angen ymchwiliad er mwyn iddyn nhw gael bod yn sicr nad oes unrhyw ddrwg yn y caws.

Ychwanegodd hefyd y dylai Prifysgol Bangor gyhoeddi faint fydd cyflog Xinyu Wu – hyd at £75,000, yn ôl adroddiadau.

‘Mater i’r brifysgol’

“Mae’r stori’n achosi dipyn o sgandal ar hyn o bryd ac felly mae angen i Lywodraeth y Cynulliad ymchwilio,” meddai Philip Dixon wrth Golwg 360.

Dywedodd y gallai’r Brifysgol fod wedi atal y sion rhag lledu drwy fod yn hollol agored o’u bwriad i benodi gwraig yr Is-ganghellor i swydd flaenllaw o’r cychwyn cyntaf.

“Ond, dyw’r hyn y mae’r Brifysgol wedi’i ddweud ddim wedi lladd y stori,” meddai.

“Mae hyn yn arian cyhoeddus – arian trethdalwyr – ac fe ddylen ni gael gwybod y pethau yma.

“Rydw i eisiau i Lywodraeth y Cynulliad edrych i mewn i’r mater. Mae ganddyn nhw fecanweithiau i ddatgelu’r pethau hyn.”

Ond pan holodd Golwg 360 am ymateb gan Lywodraeth y Cynulliad dywedodd llefarydd bod “sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn rheoli eu hunain”.

Mae penodiadau o’r fath yn “gyfan gwbl yn fater i Brifysgolion unigol,” meddai llefarydd.