Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi beirniadu gweinidog Llywodraeth y Cynulliad ar ôl iddi ddatgelu cost ‘cyfres o sleidiau’ oedd yn beirniadu’r gwasanaeth iechyd.

Dywedodd Kirsty Williams bod Adran Iechyd Llywodraeth y Cynulliad wedi gwario £500,000 ar y sleidiau gan gwmni McKinsey.

Roedd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart wedi gwadu bod yr adroddiad gan y cwmni yn bodoli, a pan ddaeth i’r amlwg dywedodd mai “dogfen trafod” ac nid adroddiad oedd o.

Roedd Kirsty Williams wedi galw am ymchwiliad i weld a oedd y gweinidog iechyd wedi camarwain y Cynulliad, ond dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones nad oedd hi wedi gwneud dim o’i le.

Dywedodd Carwyn Jones bod y ddogfen gan gwmni ymgynghorol McKinsey, a aeth i ddwylo’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn gyfres o sleidiau.

Ond dywedodd Kirsty Williams bod cost y gwaith ymgynghori yn profi arwyddocâd y sleidiau, sy’n feirniadol o safon y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

“Mae hyn yn esiampl arall o wastraff, anallu a camreolaeth llywodraeth Plaid Cymru a’r Blaid Lafur,” meddai Kirsty Williams.

“Rydw i’n synnu bod y Gweinidog Iechyd wedi cymeradwyo gwario £500,000 ar adroddiad nad oedd y Gweinidog Iechyd hyd yn oed wedi ei weld ac wedi ei ddisgrifio fel ‘papur trafod’.

“Mae’n rhaid mai hwn yw’r cyflwyniad Pwynt Pŵer fwyaf costus erioed. Mae wedi costio £6,500 am bob sleid.”

Dywedodd ei fod o’n “annerbyniol” ar adeg pan oedd disgwyl i’r Llywodraeth “wneud mwy gyda llai”.