Mae Dylan Iorwerth yn dyfalu na fydd David Cameron yn poeni gormod am gwynion o annhegwch…

Go brin eu bod nhw wedi cynllunio’r peth yn union fel hyn … er hynny, fydd David Cameron a George Osborne ddim yn poeni gormod am yr helynt tros fudd-dal plant.

Ar lawer ystyr, mi fyddan nhw’n hapus efo llawer o’r sylw. Wrth baratoi am doriadau sydd, yn ôl llawer o arbenigwyr, am effeithio’n waeth ar yr anghenus na neb arall, tydi sôn am annhegwch at y mwy cefnog ddim yn broblem fawr.

A dweud y gwir, wrth feddwl am gadw’r Democratiaid Rhyddfrydol yn hapus ac am greu lle i fynd ymhellach efo toriadau mewn budd-daliadau cyffredinol, dydi hyn ddim yn ddrwg i gyd o bell ffordd, iddyn nhw.

Wedi’r cyfan, cyn yr etholiad, y cyhuddiad mawr yn erbyn Cameron ac Osborne oedd mai toffs ysgol fonedd oedden nhw, heb unrhyw gliw am ffordd o fyw pobol llai lwcus na nhw.  Yn y cyd-destun hwnnw, tydi “Cameron yn cicio’r cefnog” ddim yn swnio cynddrwg.

Mae’n swnio’n well fyth o gofio bod blynyddoedd i fynd, fwy na thebyg, tan yr etholiad nesa’ ac, erbyn hynny, mi fyddan nhw’n anelu at dorri trethi’r dosbarth canol ymhell y tu hwnt i werth y budd-dal plant.

Y pryder mwya’

Mi ddangosodd Cameron ddoe beth ydi’i bryder mwya’ – yr anghydfod o fewn ei blaid ei hun ac, yn benodol, yng nghynteddau’r gynhadledd ym Mirmingham. Y peth ola’ y mae eisio ydi derbyniad llugoer y prynhawn yma.

Felly, a bod yn sinigaidd, dyna oedd nod y cyhoeddiad brysiog ddoe am roi mantais treth i barau priod – tawelu’r Torïaid selog. Does dim manylion nac addewid clir, ond roedd yn creu sŵn bach cymodlon ac yn cynnig ychydig o fwythau.

Mwy peryglus i’r ddau arweinydd ydi’r anniddigrwydd amlwg ymhlith rhai o’r Cabinet. Roedd wyneb yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, ar Newsnight neithiwr yn ddigon i ffrio wy heb gymorth padell a’i gwefusau’n debyg iawn i ben ôl yr iâr ar ôl dodwy.

Mi fydd Cameron ac Osborne wedi colli pwyntiau ymhlith rhai o’u cydweithwyr tros hyn ac mi fyddan nhw’n gwybod bod angen cadw cefnogaeth ar gyfer brwydrau’r dyfodol. Ond anhwylustod ydi peth felly yn fwy nag argyfwng.

Dydi hyn ddim yn debyg i dreth 10c Gordon Brown. Mi fydd hi’n anodd cael llawer o benawdau am galedi ymhlith pobol sy’n ennill mwy na £44,000 y flwyddyn ac mae egwyddor ‘budd-dal i bawb’ yn un anodd i godi stêm poblogaidd drosti.

Mewn ffordd arall, mi allai hyn wneud lles i Cameron ac Osborne. Maen nhw wedi cael gwers fach finiog a chynnar … a dyna’r math mwya’ defnyddiol.