Daeth Sam Harrison o Gymru’n agos eithriadol i gipio medal efydd arall i’w wlad yn y ras bwyntiau dynion yn y felodrom bore ma.

Y ras bwyntiau yw’r ras mwyaf rhyfedd a chymhleth yn y cystadlaethau beicio, ond fe reidiodd y Cymro 18 oed yn arbennig o dda i roi ei hun mewn safle i gipio medal annisgwyl.

Mae’r ras yn gyfres o 16 sprint dros 40 kilometr lle mae pwyntiau yn cael eu dyfarnu i’r pedwar cyntaf ym mhob sprint. Gyda nifer uchel o seiclwyr yn cymryd rhan, mae’n ras sy’n anodd iawn cadw trac arni gyda’r safleoedd yn gallu newid yn gyflym iawn.


Cyfartal ar bwyntiau

Roedd Harrison yn gyfartal ar bwyntiau gyda Mark Christian o Ynys Manaw wrth gyrraedd y sprint olaf, ond ni lwyddodd yr un o’r ddau i orffen yn y pedwar uchaf.

Er hynny, gan i Christian orffen yn bumed ac un safle o flaen y Cymro yn y sprint olaf, mae rheolau’r gystadleuaeth yn dyfarnu mai ef oedd yn cipio’r fedal efydd.

Cameron Meyer o Awstralia enillodd y fedal aur a hynny’n rhwydd gyda 89 pwynt, tra bod George Atkins o Loegr yn cipio’r fedal arian gyda 52 o bwyntiau.

Sgoriodd Mark Christian a Sam Harrison 37 pwynt yr un, ond y gŵr o Ynys Manaw fydd ar y podiwm i hawlio’r fedal efydd.

Roedd Harrison, sy’n dod o Risca ger Casnewydd hefyd yn seithfed yn ffeinal y ras pyrsiwt unigol ddoe.

Llwyddodd Cymru i ennill y fedal efydd yn y ras bwyntiau bedair blynedd nôl pan gamodd Geraint Thomas i’r podiwm.