Geraint Evans sy’n dadlau yn erbyn codi ysgol newydd Gymraeg ar safle Brynderi yn Ystradgynlais…
Sefydlwyd grŵp gweithredu Rhieni Yn Erbyn Brynderi i ymladd dros chwarae teg i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a thros gyfartalwch i’r iaith Gymraeg yn nalgylch Maesydderwen yn ardal Ystradgynlais, ym mhen uchaf Cwmtawe.
Ar Fedi’r 14eg 2010 pleidleisiodd Bwrdd Cyngor Powys yn unfrydol i gau’r 10 ysgol yn nalgylch Maesydderwen gan adeiladu 4 ysgol newydd yn eu lle. Serch hynny, gwnaed un newid arwyddocaol i’r cynnig o ran y safleoedd. Bu trafod mawr a phryderon yn cael eu mynegi gan y Bwrdd, yn enwedig dros safle Brynderi – y safle y mae Cyngor Sir Powys wedi ei ddewis gogyfer yr ysgol gyfrwng Gymraeg newydd. Pwysleisiodd aelodau’r Bwrdd ar draws y sbectrwm gwleidyddol, dros yr angen i ddatrys materion cyfreithlon, yn ogystal â phryderon y gymuned.
Atgyfnerthwyd y momentwm y tu ôl i ymgyrch dywedwch na i Frynderi gan orymdaith drwy Ystradgynlais ar ddydd Sadwrn, Medi’r 11eg. Roedd yr orymdaith yn llwyddiant ysgubol gyda channoedd o drawstoriad o’r gymuned yn protestio yn erbyn yr anghyfartalwch sydd wedi’i dargedu at addysg gyfrwng Gymraeg a’n hiaith. Anerchwyd yr wrthdystiad gan Roger Williams AS cyn cerdded drwy Ystradgynlais i rali ar gaeau chwarae’r Tic Toc. Mae hyn ar ben 415 o lythyron o wrthwynebiad a gasglwyd o fewn cyfnod byr o amser a chyn hyd yn oed bod y gymuned ehangach yn ymwybodol o broblemau’r broses o Foderneiddio Ysgolion. Yn ôl cynlluniau a ryddhawyd yn ddiweddar gan Gyngor Sir Powys, mae’n pryderon ynglŷn â safle Brynderi wedi’u llwyr gyfiawnhau.
Y pryderon
Diffyg chwarae teg i blant – Yn ei ddogfen asesu rhagbaratoawl, dywed CS Powys y bydd gan yr ysgol gyfrwng Saesneg yng Nglanrhyd 30,972m2 o dir i 240 o ddisgyblion a lle i ehangu. Fe fydd gan safle Penrhos 32,700m2 i 240 o ddisgyblion. Ond, dim ond 17,782m2 o dir y gellid ei ddefnyddio bydd ar safle Brynderi gogyfer 300 o ddisgyblion a dim lle i ehangu. A hynny er gwaetha’r ffaith y bydd yr ysgol, yn ôl y niferoedd arfaethedig, wedi cyrraedd y mwyafswm y bydd modd ei dderbyn yn ystod y flwyddyn gyntaf. I grynhoi felly, fe fydd gan y plant fydd yn cael eu haddysgu drwy’r Gymraeg 57% yn llai o le na gweddill plant Ystradgynlais!
Anghyfartalwch i addysg Gymraeg – Gofynnir i ni dderbyn y cynnig i leoli’r ysgol fwyaf ar y safle lleiaf. Mae un golwg dros y cynlluniau yn ddigon i ddangos yr anghyfartalwch yn nhermau’r hyn a gynigir o ran caeau chwarae, cynefinoedd tu allan ac ardaloedd natur. Mae’r safle wedi’i rannu gan lwybr cyhoeddus, sy’n lleihau maint defnyddiadwy’r safle ymhellach ac yn codi ofnau diogelwch dros y disgyblion.
Absenoldeb ysgol gymunedol Gymraeg yng nghalon y gymuned – Bydd dalgylch yr ysgol Gymraeg yn ymestyn o Goelbren a Glyntawe hyd at a thros ffin Powys. Serch hynny, mae’r lleoliad a gynigir i’r ysgol o fewn tafliad carreg i ffin Nedd a Phort Talbot a Sir Gaerfyrddin. Ar ben hynny, mae yna wir fygythiad na fydd lle i ddisgyblion sy’n teithio o du allan i ffiniau Powys yn yr ysgol newydd. Disgyblion sy’n draddodiadol yn derbyn addysg Gymraeg yn Ystradgynlais. Er mwyn cael ethos hollol gymunedol mae’n rhaid i’r ysgol fod yn hygyrch i’r gymuned ac o fewn pellter cerdded i’r cyfleusterau cymunedol y bydd yr ysgol yn eu defnyddio’n rheolaidd.
Anghysondeb yn y broses ymgynghori – Mae Cyngor Sir Powys wedi bychanu’r mwyafrif o rieni addysg gyfrwng Gymraeg drwy ond danfon swyddogion yn hytrach na chyfarwyddwyr i’r cyfarfod ymgynghori yn wahanol i’r holl ymgynghoriadau eraill. Mae barn y mwyafrif o rieni wedi’i hanwybyddu a’i diystyru.
Diffyg tryloywder – Mae diffyg tryloywder yn amlwg trwy gydol y broses. Mae agendau personol a gwleidyddol wedi eu rhoi o flaen anghenion dysgwyr. Mae tystiolaeth yn awgrymu fod angen edrych ar gyfraniad Cyngor Tref Ystradgynlais i’r broses o amddifadu cymuned Ystradgynlais o ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg newydd ar safle delfrydol a chanolog.
Gwerth arian i drethdalwyr – Tua 4.5 miliwn o bunnoedd oedd y gost arfaethedig wreiddiol gogyfer adeiladu’r ysgol. Erbyn hyn mae’r ffigwr yma wedi cynyddu i dros 8 miliwn o bunnoedd: ffactor gyfrannol at y cynnydd yw symud Cwm Wanderers FC. Mewn papur a ddanfonwyd i fwrdd CS Powys ar 30/3/10 dywedwyd “Fe fydd yna gost ychwanegol i’r Bwrdd Cynllunio sy’n golygu bydd y gost yn fwy na’r amcangyfrif gwreiddiol o hyd at filiwn o bunnoedd am y cyfleusterau newydd hyn a’r gwaith tir cysylltiedig”. Ar hyn o bryd, er i Gyngor Sir Powys ddatguddio cynlluniau newydd ar Fedi’r 30ain i symud Cwm Wanderers FC nid yw’r clwb wedi cytuno symud. Yn ychwanegol i’r costau dianghenraid y soniwyd amdanynt eisioes, cyfeiriodd y papur hefyd at yr angen i brynu dau ddarn ychwanegol o dir er mwyn galluogi ystyried Brynderi fel safle posibl. Yn ogystal, cydnabuwyd absenoldeb cost trin Llysiau’r Dial (Japanese Knotweed) o’r cyllid presennol. Felly Brynderi fydd y safle lleiaf ond drutaf i’w ddatblygu. Oni fyddai’n gwell gwario’r arian ar addysg ein plant?
Gyda’i gilydd, mae’r ffactorau yma yn cryfhau’r ddadl yn erbyn Brynderi ac yn ysbrydoli’r ymgyrch i barhau i ymladd dros gyfartalwch i addysg Gymraeg.
Rydym bob amser wedi llwyr gefnogi’r agenda moderneiddio ac yn ddelfrydol hoffem ddatrys y sefyllfa cyn bod rhaid mynd â’n gwrthwynebiadau at Lywodraeth Cynulliad Cymru.