Mae pobol Cernyw yn protestio ar ôl i newidiadau i ffiniau eu hetholaethau fygwth eu huno nhw gyda Dyfnaint.
Dros y penwythnos fe fydd ymgyrchwyr yn gorymdeithio ar hyd ymyl yr afon Tamar, sydd wedi nodi’r ffin rhwng Cernyw a Dyfnaint ers y 10eg ganrif.
Yn ôl yr ymgyrchwyr mae’r ffin wedi bod yno ers cytundeb rhwng y Brenin Athelstan o Wessex a’r Brenin Hywel o Gernyw 1,000 o flynyddoedd yn ôl.
Maen nhw’n anhapus y bydd deddfwriaeth Llywodraeth San Steffan i wneud pob etholaeth ym Mhrydain yr un maint yn golygu eu bod nhw’n rhannu etholaethau, ac Aelodau Seneddol, gyda Dyfnaint.
Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn cydraddoli bob etholaeth i tua 76,000 o bobol ac yn lleihau nifer yr ASau o 650 i 600.
Mae disgwyl y bydd etholaethau De Ddwyrain Cernyw a Gogledd Cernyw yn uno gyda Gorllewin Dyfnaint & Torridge a Plymouth Moor View.
‘Gwahanol’ i weddill Lloegr
Mae’r trefnwyr yn disgwyl i 1,000 o bobol ymuno â’r orymdaith yn Saltash, ar ochor Gernyw yr afon Tamar, er mwyn protestio yn erbyn y cynllun.
Mae pob un o ASau Cernyw yn rhan o’r glymblaid yn San Steffan, ac er eu bod nhw wedi pleidleisio o blaid y ddeddfwriaeth i leihau nifer y seddi mae’n nhw’n dweud eu bod nhw’n erbyn uno gyda Dyfnaint.
Dywedodd Adam Killeya, maer Saltash ac arweinydd ymgyrch Cadw Cernyw yn Gyfan, bod gan yr ardal hanes, diwylliant ac anghenion gwahanol i weddill Lloegr.
“Mae materion economaidd a chymdeithasol Cernyw yn wahanol,” meddai wrth bapur newydd y Guardian. “Ni fyddai’n gwneud synnwyr bod un AS yn cynrychioli pobol Dyfnaint a Chernyw.”
(Llun: Ymgyrch Keep Cornwall Whole)