Bydd rhaid i’r gantores ifanc o raglen X Factor, Gamu Nghemgu adael Prydain yn wirfoddol neu gael ei halltudio, meddai Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig heddiw.
Roedd y ferch 18 blwydd oed o Zimbabwe wedi cael aros yn y wlad tra’r oedd ei mam Nokuthula Ngazana yn astudio yn y Brifysgol.
Ond, mae’r visa bellach wedi dod i ben ac mae cais y teulu i aros ym Mhrydain wedi’i wrthod am nad yw’n cwrdd â meini prawf y Swyddfa Gartref.
Mae hyn yn golygu fod rhaid iddyn nhw adael yr Alban ble maen nhw wedi bod yn byw neu gael eu halltudio i Zimbabwe.
Doedd Gamu Nghemgu heb ennill lle yn rowndiau terfynol yr X Factor er gwaethaf cefnogaeth fawr gan y cyhoedd, ac roedd rhai yn dyfalu mai ei thrafferthion Visa oedd yn gyfrifol am hynny.
Ond yn ôl llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref, penderfyniad y rhaglen deledu oedd peidio rhoi lle iddi yn y rownd derfynol.