R’yn ni’n disgwyl i welliannau’r Llywodraeth ar y mesur iaith gael eu cyhoeddi unrhyw funud. Yr addewid yw newid i’r datganiad o ran statws, cryfhau rôl y Comisiynydd a chreu cyngor partneriaeth i’r iaith Gymraeg fel sydd gan er enghraifft fyd busnes. Fe fydd y Llywodraeth yn gobeithio bod eu gwelliannau’n tawelu ofnau’r ymgyrchwyr iaith bod y mesur yn “fess hir” ac y bydd pawb yn derbyn y mantra ers misoedd bod y mesur iaith yn “gam sylweddol ymlaen i’r iaith Gymraeg.” Rwy’n deall nad yw’r ymgyrchwyr iaith yn credu bod y datganiad newydd o ran statws yn ddigon cryf, yn dal i feddwl bod y mesur yn rhy wan ac yn gobeithio y bydd yr ACau yn cynnig gwelliannau cryfach i’r mesur yfory. Sïon yw rheiny, rhaid aros i weld beth gaiff ei gyhoeddi.
gan
Rhiannon Michael