Mae o leiaf un person wedi marw ar ôl i dân gwyllt oedd wedi eu gosod fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Hanoi yn 1,000 oed ffrwydro’n rhy gynnar.

Yn ôl cyfryngau’r wlad roedd y ffrwydrad yn ddigon mawr i ysgwyd adeiladau a chwalu ffenestri.

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y wlad bod y ffrwydrad wedi digwydd ychydig cyn hanner dydd yn stadiwm My Dinh.

Gwrthododd yr heddlu gadarnhau bod ffrwydrad wedi digwydd, a diflannodd adroddiadau gan sawl un o bapurau newydd ar-lein Fietnam yn fuan ar ôl ymddangos.

Cyn i’r adroddiad ddiflannu, dywedodd papur newydd Thanh Niedn bod o leiaf un person wedi marw o ganlyniad i’r ffrwydrad.