Mae Prydeiniwr wedi boddi ar reid ddŵr mewn parc antur yn Florida, datgelwyd heddiw.
Fe fuodd Ivan Henson, 68, o Fanceinion, farw ar ôl cael ei daro yn anymwybodol ar reid Ria Rapids yn Aquatica Seaworld Orlando.
“Fe fuodd dyn o Brydain, Ivan Henson, farw yn Orlando, Florida, ar 4 Hydref, 2010,” meddai’r Swyddfa Dramor.
“Mae ei berthnasau wedi cael gwybod ac mae swyddfa’r is-gennad yn Orlando yn rhoi cymorth i’r teulu.”
Mae gwefan y parc antur yn disgrifio’r reid fel “antur anhygoel drwy fôr cythryblus sy’n cynnwys trobyllau, geiserau a llanwau uchel”.
Mae’r gwefan yn rhybuddio y dylai unrhyw un o dan 5 troedfedd 1 modfedd sydd eisiau mynd ar y reid wisgo siaced achub.
(Llun: Aquatica – spakattacks)