Ifan Morgan Jones sy’n cydweld gyda David Miliband…
Roedd hi’n drafodaeth fer ond dadlennol. Wrth i Ed Miliband gyhoeddi yn ei araith gyntaf fel arweinydd y Blaid Lafur fod y rhyfel yn Irac bellach yn anghywir, trodd ei frawd David at ddirprwy arweinydd y blaid, Harriet Harman, a dweud:
“Fe wnes ti bleidleisio dros [y rhyfel]. Pam wyt ti’n cymeradwyo?”
“Rydw i’n cymeradwyo am fy mod i, fel wyt ti’n ei wybod, yn ei gefnogi o.”
Mae’r cyfryngau wedi neidio ar hyn fel tystiolaeth o hollt rhwng y ddau Miliband, tro arall yn opera sebon teuluol y gynhadledd.
Ond onid ydy o’n dweud mwy am ymdrechion y blaid Lafur i ddianc o gysgod Rhyfel Irac? Efallai ei fod o’n ddigon teg bod Ed Miliband yn dweud nawr nad oedd o’n cefnogi’r rhyfel (er, efallai ei fod o rywfaint yn gyfleus nad oedd o’n Aelod Seneddol ar y pryd a heb orfod pleidleisio).
Ond a ddylai ffigyrau blaenllaw fel Harriet Harman gael troi cefn ar eu penderfyniad nhw i gefnogi’r rhyfel mor hawdd a hynny?
Mae’n debyg bod dros 100,000 o bobol wedi marw o ganlyniad i’r brwydro hyd yn hyn. Ydi hi’n deg bod y rheini fu’n bennaf gyfrifol yn cael golchi eu dwylo o’r cwbwl gydag un araith mewn cynhadledd, gydag un cymeradwyaeth? Os oedden nhw wir yn credu bod y rhyfel yn gyfiawn, y peth dewr a gonest i’w wneud byddai glynu gyda hynny.
Yng ngeiriau David Miliband: “Pam wyt ti’n cymeradwyo?”