Mae Prif Weinidog Awstralia, Julia Gillard, wedi dweud ei bod hi’n falch o gael dilyn yn ôl traed Neil Kinnock.
Siaradodd Julia Gillard, sy’n dod o’r Barri yn wreiddiol, yng nghynhadledd y Blaid Lafur rydeinig drwy ddolen fideo.
“Rydw i’n falch o gael dilyn yn ôl traed Neil Kinnock fel arweinydd Llafur pengoch o Gymru!” meddai.
“Awstralia oedd y wlad gyntaf i ethol llywodraeth Lafur oedd â mwyafrif, ac rydw i’n falch ein bod ni nawr wedi ethol Prif Weinidog Llafur wedi ei geni yng Nghymru, ond rydw i’n gobeithio nad ni yw’r wlad olaf i wneud hynny!
“Fel nifer o sefydlwyr Llafur Awstralia fe deithiais yma dros y môr o’ch gwlad chi, ar ôl treulio fy mlynyddoedd cynnar yn y Barri yn ne Cymru.”
Ychwanegodd y dylai Llafur fod yn “hynod o falch” o’i chyfnod mewn llywodraeth ym Mhrydain.
“Nawr, gydag arweinydd newydd, mae taith newydd yn dechrau ar gyfer Llafur Cymru.”