Roedd milwr gafodd ei ladd gan y Taliban yn Afghanistan ddydd Sadwrn yn dod o Abertawe, cyhoeddwyd heddiw.
Roedd y Corporal Matthew Thomas, 24 oed, o Penllergaer, yn gwasanaethu gyda’r lluoedd arbennig yn ardal Gasmir rhanbarth Helmand.
Ef yw’r 22fed milwr o Gymru i gael ei ladd yn Afghansitan. Fe fu farw pan gafodd y cerbyd yr oedd o’n ei yrru ei daro gan ffrwydryn.
Roedd ei rieni Beverley a Robert ar wyliau yn Yr Aifft pan glywon nhw’r newyddion, ond maen nhw bellach wedi dychwelyd i Gymru.
Mae disgwyl i gorff Matthew Thomas gael ei hedfan i RAF Lyneham yfory.
Dywedodd y Gweinidog Amddiffyn, Liam Fox, bod “Corporal Matthew Thomas wedi gwneud yr aberth eithaf er mwyn amddiffyn diogelwch y wlad”.