Mae Ed Balls wedi cadarnhau y bydd David Miliband yn gadael Cabinet yr wrthblaid heddiw.

Dywedodd Ed Balls wrth ITV nad oedd David Miliband yn gadael oherwydd “gwleidyddiaeth neu ideoleg”.

“Dydw i ddim yn meddwl ei fod o’n hollt gwleidyddol, rydw i’n meddwl ei fod o’n benderfyniad personol,” meddai.

“Mae o wedi penderfynu dros y dyddiau diwethaf nad ydi o, am resymau personol, eisiau gwasanaethu gyda’i frawd.

“Rydw i’n deall hynny, mae’n rhaid ei fod o’n anodd iawn colli i dy frawd yn y ffordd yna… pe baech chi fel brawd yn penderfynu ei fod o’n rhy anodd dwi’n credu y byddai pobol yn deall hynny.

“Dydw i ddim yn meddwl bod yna hollt mawr gwleidyddol yn bodoli fan hyn.”