Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi galw am fwy o arian i Gymru gan Lywodraeth San Steffan ar ôl i’r Democratiaid Rhyddfrydol ymosod ar safon gofal canser Cymru.

Roedd adroddiad newydd gan Ymchwil Canser Prydain yn awgrymu bod Cymru yn disgyn ar ei hôl hi o’i gymharu â Lloegr a’r Alban.

Yn ôl yr adroddiad “mae angen datblygu cynllun mwy cynhwysfawr er mwyn sicrhau gwasanaeth sy’n gyson dros bob rhan o Gymru”.

Roedd yr adroddiad hefyd yn dweud bod cynlluniau Lloegr a’r Alban er mwyn mynd i’r afael gyda chanser yn fwy cynhwysfawr na Chymru ac nad oedd arbenigwyr yng Nghymru yn teimlo bod canser yn cael digon o flaenoriaeth.

Wrth ymateb i feirniadaeth y Democratiaid Rhyddfrydol dywedodd Carwyn Jones bod angen mwy o arian gan Lywodraeth San Steffan.

“Beth fyddai yn ein helpu ni’n sylweddol wrth gwrs er mwyn darparu gwell gofal canser yn y dyfodol fyddai’r arian er mwyn gwneud hynny gan eich llywodraeth chi yn San Steffan,” meddai Carwyn Jones wrth Kirsty Williams yn y Senedd.

“Yn hytrach nag ein darlithio ni ar beth sydd angen ei wneud, darparwch yr arian er mwyn ei wneud e.”

Haeddu gwell

Dywedodd Kirsty Williams bod cyfradd canser yng Nghymru yn uwch nag gweddill Prydain a bod cyfraddau goroesiad yn waeth na’r cyfartaledd Ewropeaidd.

Dim ond hanner ysbytai Cymru oedd yn cwrdd â’r targed o drin cleifion o fewn 31 diwrnod, meddai.

Beirniadodd araith Carwyn Jones yng Nghynhadledd y Blaid Lafur dros y penwythnos a’i honiad fod Cymru “yn falch o wneud pethau’n wahanol”.

“Dyw hyn ddim yn esiampl o wneud pethau eich ffordd eich hun. Mae’n esiampl o adael pobol i lawr,” meddai Kirsty Williams.

“Mae pobol Cymru yn haeddu gwasanaeth canser cystal â Lloegr a’r Alban.

“Rydyn ni wedi cael pedwar blynedd o fuddsoddi mawr yn y gwasanaethau iechyd. Ond dyw hynny heb drosi i mewn i well gofal canser ar gyfer pobol Cymru.”