Fe fydd S4C, Cbeebies a RTÉjr yn cydweithio am y tro cyntaf er mwyn cynhyrchu cyfres animeiddio newydd i blant meithrin gan gwmni Dinamo, cyhoeddwyd heddiw.
Daw hyn wrth i stiwdio newydd cwmni Dinamo yn Nhrefforest gael ei agor yn swyddogol gan y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones a’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones heddiw.
Mae’r gyfres Yr Abadas/ The Wordles yn gyfres cysylltu gair a sŵn rhyngweithiol wedi ei lleoli ar ynys sy’n seiliedig ar lyfr ‘pop-up’.
Bydd y gwylwyr yn gallu chwilio am eiriau newydd wrth ddilyn anturiaethau cymeriadau difyr yn seiliedig ar hipo, ystlum a llwynog.
“Mae hyn yn ben llanw proses hir o gydweithio gyda CBeebies, RTÉ ac S4C ac ry’n ni hynod falch ein bod ni’n dod â’r tri darlledwr yma at ei gilydd i greu rhaglen meithrin sydd yn brydferth ac yn arwyddocaol,” meddai Siwan Jobbins, Uwch Gynhyrchydd Dinamo Productions.
Mae prosiectau diweddar eraill yn cynnwys Rastamouse (CBeebies), Grandpa in my Pocket (Adastra / Cbeebies) a Cwm Teg / Happy Valley (S4C/RTE) (dde).
Stiwdio newydd
Mae’r stiwdio newydd yn cynnwys adrannau animeiddio stop-symud, un o’r meysydd y mae gan y cwmni ddiddordeb penodol ynddo.
Arianwyd y stiwdio newydd gyda chyllid gan Gronfa Fuddsoddi Sengl Llywodraeth Cynulliad Cymru, a cefnogaeth ariannol gan Gyngor Rhondda Cynon Taf a Lloyds TSB.
“Wrth i ni ehangu ein portffolio a chynhyrchu cynyrchiadau mwy ar gyfer darlledu a hysbysebion, rydym yn gobeithio y byddwn yn denu rhagor o arian, nid yn unig i Dinamo ond hefyd i’r rhanbarth cyfan,” meddai Owen Stickler, Rheolwr Gyfarwyddwr Dinamo Productions.
“Rydym yn ymfalchïo yn ein strategaeth o feithrin talent leol o’r prifysgolion cyfagos ac yn edrych ymlaen at y cam newydd hwn yn ein datblygiad.”
Ychwanegodd Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C, eu bod nhw wrth eu bodd yn gweld y cwmni’n tyfu a datblygu.
“Mae’r stiwdio cynhyrchu newydd yn Nhrefforest yn ddatblygiad sylweddol i’r diwydiant darlledu yng Nghymru ac ry’n ni’n llongyfarch y cwmni ar eu menter a gweledigaeth,” meddai.
Ffurfiwyd Dianamo Productions yn 2004 ac mae’n dathlu ei ben-blwydd yn chwe blwydd oed ym mis Hydref.
Mae’r cwmni erbyn hyn yn cyflogi staff o 75 o bobl, gan ei wneud yn un o gwmnïau cynhyrchu animeiddio annibynnol mwyaf Cymru.
(Llun: Cwm Teg)