Ifan Morgan Gimli Jones sy’n dweud y byddai Cymru’n falch o gael The Hobbit…

Mae pawb sy’n fy nabod i’n gwybod fy mod i wrth fy modd gyda llyfrau JRR Tolkien, The Lord of the Rings. Yn ogystal a chasgliad llawn o’i ysgrifau mae gen i DVDs estynedig pob un o’r ffilmiau a, rhaid cyfaddef, sawl cleddyf gafodd eu defnyddio yn y ffilmiau hefyd…

Beth bynnag, daeth i’m sylw heddiw bod ffilm The Hobbit, sy’n seiliedig ar nofel gyntaf JRR Tolkien am fyd The Lord of the Rings, wedi mynd i drafferthion. Mae’r cynhyrchwyr wedi bod yn ffraeo gydag undeb actorion o Awstralia sydd eisiau galw boicot ar y ffilm. Pen draw hynny ydi bod y cyfarwyddwr, Peter Jackson, wedi bygwth symud y cynhyrchiad cyfan o Seland Newydd, lle y cafodd y ffilmiau gwreiddiol eu creu, i Ewrop.

Dyma gyfle euraid i Gymru! Wedi’r cwbl rydan ni eisoes wedi llwyddo i ddenu ffilm Russel Crowe, Robin Hood, y ffilm Harry Potter diweddaraf, The Deathly Hallows, yn ogystal ag un o ffilmia mawr Hollywood eleni, Clash of the Titans, i Gymru. Roedd y ffilmiau Lord of the Rings gwreiddiol yn hwb rhyfeddol i dwristiaeth Seland Newydd, ac fe allai The Hobbit wneud yr un peth i’n gwlad ni. Does dim dadlau fod gyda ni’n tirwedd i ail greu bryniau tonnog Hobbiton a’r Shire (Ceredigion), mynydd y draig Smaug (yr Wyddfa), a’r frwydr tyngedfennol rhwng yr Orcs a’r Corrachod (maes Caernarfon ar nos Sadwrn).

Felly dewch yn eich blaen, Llywodraeth y Cynulliad. Os allech chi wario miloedd ar ddenu rownd o golff i Gymru dwi’n siŵr y gallech chi dynnu eich llyfr siec allan ar gyfer un o gampweithiau JRR Tolkien. Dyma fy nghyfle olaf i fyw fy mreuddwyd o gael bod yn un o arwyr ‘Middle-Earth’. Efallai nad ydw i’n ddigon golygus i fod yn Elf, ond gyda’r trwyn sydd gen i rydw i’n meddwl y byddwn i’n gwneud Corrach da*!

(*Cyn i chi ddadlau fy mod i’n 6’2”, ac felly’n rhy dal i fod yn gorrach, alla’i gyfeirio at y ffaith bod prif gorrach y ffilm cynta’, John Rhys Davies, yn 6’1”, ac wedi ei leihau mewn maint ar y sgrin trwy waith twyllodrus y cyfrifiadur.)