Mae Nato yn honni eu bod wedi lladd dros 50 o wrthryfelwyr y Taliban mewn ymosodiadau o’r awyr ym Mhacistan.
Roedd yr hofrenyddion wedi hedfan dros y ffin o Afghanistan ar ôl ymosodiadau cynharach ar safle diogelwch yn y wlad.
Ond er bod cytundeb sy’n caniatáu i luoedd Nato i hedfan heibio’r ffin am rai milltiroedd os ydyn nhw ar ôl rhywun, mae Pacistan wedi beirniadu’r ymosodiad.
Mae awdurdodau o’r wlad wedi dweud fod protestio cryf wedi digwydd yn erbyn y bomio, gan honni bod lluoedd Nato wedi tresmasu ar sofraniaeth Pacistan.
Roedd yr ymosodiadau wedi digwydd dros y penwythnos.
Kandahar
Yn y cyfamser, mae’r lluoedd rhyngwladol a lluoedd Afghanistan yn parhau i geisio curo’r Taliban yn ninas Kandahar yn ne Afghanistan.
Mae’r ymdrech filwrol yno yn cael ei ystyried i fod yn allweddol i lwyddiant strategaeth yr Unol Daleithiau yn erbyn y Taliban.