Mae disgwyl i Gavin Henson ddychwelyd i chwarae rygbi ym mis Rhagfyr ar ôl iddo gytuno i chwarae i’r Barbariaid yn erbyn De Affrica yn Twickenham.
Dyw’r chwaraewr amryddawn heb chwarae ers mis Mawrth 2009 yn dilyn anaf i’w bigwrn ac yna cyfnod di-dâl allan o’r gêm.
Ar hyn o bryd mae’r Cymro’n paratoi i gystadlu ar raglen Strictly Come Dancing, ond mae wedi dweud ei fod yn awyddus i ail-danio ei yrfa rygbi.
Mae Henson eisoes wedi dweud y byddai’n ffafrio symud i un o glybiau Llundain yn y dyfodol wrth iddo geisio gwthio am le yng ngharfan Cymru i chwarae yng Nghwpan y Byd blwyddyn nesaf.
“Yn amlwg fe fydd ein gwahoddiad i Gavin yn denu llawer o sylw,” meddai rheolwr cytundebau’r Barbariaid, Mike Burton.
“Mae ganddo ymrwymiadau tu allan i rygbi ac mae’n ymwybodol o’r angen i fod yn ffit i chwarae er mwyn gallu rhoi o’i orau”
“Fe fyddwn ni yn cysylltu gydag ef a’r Gweilch yn gyson dros yr wythnosau nesaf, ac os fydd popeth yn iawn, dyma fydd y cyfle cyntaf i’w weld ‘nôl yn chwarae.”