Mae adroddiad gan Sefydliad Ariannol yr IMF wedi dweud bod “adferiad” economi’r Deyrnas Unedig “ar waith.”
Mae’r adroddiad blynyddol yn cefnogi mesurau torri gwariant Llywodraeth glymblaid San Steffan, gan ddweud fod cynlluniau’r Canghellor George Osborne yn “gredadwy” ac yn “hanfodol.”
Mae’r adroddiad hefyd yn rhagweld y bydd yr economi’n cynyddu 2% yn 2011, ac yn dweud y byddai chwyddiant yn gostwng i’r targed o 2% erbyn 2012.
Daw’r gefnogaeth yma gwta fis cyn y bydd y Canghellor yn cyhoeddi adolygiad gwariant yr Hydref.
Ond, mae’r IMF yn rhybuddio bod hyder isel defnyddwyr y farchnad, a phwysau ariannol mewn cartrefi ac yn y banciau, ac arwyddion o wendid yn y farchnad dai, yn fygythiad i’r adferiad.
Croesawu
Mae George Osborne wedi croesawu “cefnogaeth” yr adroddiad.
Honnodd ei fod yn gwneud pethau’n glir fod y cynllun i leihau’r diffyg yn y pwrs cyhoeddus yn “angenrheidiol” ar gyfer cynaliadwyedd y gyllideb, ac i arbed Prydain rhag “dychwelyd i gyfnod trychinebus economaidd.”