Ifan Morgan Jones sy’n gofyn ai David Miliband yw’r Gordon Brown newydd…
Mae’n siŵr fod David Miliband yn diawlio na wnaeth o ddisodli Gordon Brown pan oedd ganddo’r cyfle.
Fe allai fod wedi dangos yr un dewrder a Prif Weinidog presennol Awstralia, Julia Gillard, a arweiniodd gwrthryfel yn erbyn arweinydd amhoblogaidd y wlad, Kevin Rudd, ac ennill o drwch blewyn etholiad fyddai wedi ei cholli fel arall.
Dwi’n ffyddiog y gallai David Miliband fod wedi ennill yr etholiad ar 6 Mai eleni o’r un trwch blewyn a sicrhau pedwerydd tymor i’r Blaid Lafur pe bai o wedi dewis disodli Gordon Brown. Fe allai fod yn brif weinidog heddiw.
Doedd ganddo ddim y dewrder i weithredu bryd hynny, gan feddwl, mae’n siwr, y byddai’n ddewis naturiol ar gyfer arweinydd y blaid unwaith oedden nhw allan o bŵer. Byddai’r Ceidwadwyr yn gorfod gwneud toriadau amhoblogaidd o ganlyniad i’r diffyg ariannol anferth ac felly roedd ganddo gyfle da o fod yn Brif Weinidog cyn ei fod o’n 50 oed.
Ond ar ôl methu ei gyfle i ddisodli Gordon Brown, mae yna beryg rŵan mai fo fydd y Gordon Brown nesaf. Roedd Brown, fel David Miliband, yn credu y byddai’n cael y cyfle i arwain ei blaid cyn bo hir. Cafodd cynlluniau’r ddau eu sbwylio gan wleidyddion mwy ffres a llai profiadol, Tony Blair ac Ed Miliband.
Fe wnaeth Tony Blair y camgymeriad o roi gormod o bŵer i Gordon Brown, ac mae yna beryg y bydd Ed Miliband yn teimlo fod yna bwysau mawr arno i gynnig sedd flaenllaw yn y Cabinet i’w frawd David. Fel Gordon Brown mae gan David Miliband ei gefnogwyr ei hun ac fe fyddai’n anodd iawn cael gwared ohono. Ac fel Gordon Brown bydd David Miliband yn dal i chwennych swydd y Prif Weinidog, a dros y blynyddoedd fe allai’r chwerwedd yna adeiladau tan ei fod o’n niweidio’r blaid.
Efallai y byddai cariad brawdol yn ddigon er mwyn osgoi hynny. Ond efallai y bydd un o’r ddau yn cymryd penderfyniad dewr a dysgu o gamgymeriad Tony Blair a Gordon Brown. Fe fyddai Ed yn ymddangos yn gas os nad yw’n cynnig sedd a David yn ymddangos yn chwerw os nad yw’n ei derbyn, ond efallai mai dyna fyddai orau i’r blaid yn y pen draw.