“Mae’n bryd i ni ddweud ein bod ni wedi cael digon”, meddai Aelod Seneddol Cwm Cynon wrth golwg360 ar ddiwrnod rali Deddf Eiddo – Dim Llai ym Mlaenau Ffestiniog heddiw (dydd Sadwrn, Mai 4).

Cafodd gorymdaith a rali eu cynnal yn galw am Ddeddf Eiddo yng Nghymru i fynd i’r afael â’r argyfwng tai, ac i sicrhau bod tai yn cael eu trin fel cartrefi ac nid asedau.

Yn ystod yr orymdaith, galwodd Beth Winter, yr Aelod Senedd Mabon ap Gwynfor, a’r Cynghorydd Craig ab Iago ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ‘Deddf Eiddo – Dim Llai’.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau i Gymdeithas yr Iaith nad ydyn nhw’n bwriadu deddfu ym maes tai yn nhymor y Senedd hon.

“Cyhoeddir Papur Gwyn y Llywodraeth ar Dai Digonol yn yr haf eleni, ond gallwn ni gyhoeddi nawr ar ran y Llywodraeth nad oes bwriad i gyflwyno Deddf Eiddo yn y tymor seneddol hyd 2026.”, meddai Fred Ffransis wrth y dorf oedd wedi ymgasglu.

“Yn wir, fe gawson ni’r argraff mai’r bwriad yw cefnu ar unrhyw gamau polisi radicalaidd cyn yr etholiad, gan ddilyn arddull eu harweinydd Prydeinig Keir Starmer, a hyn er gwaethaf degawdau o ymgyrchu ac er gwaethaf argyfwng ein cymunedau Cymraeg, sy’n colli tir fis ar ôl mis.

“Dyma pam y byddwn yn cychwyn ymgyrch newydd yma heddiw i gael miloedd o bobol i lofnodi galwad ‘Deddf Eiddo – Dim Llai’ a chyflwyno’r alwad i Lywodraeth Cymru mewn mis ar faes Eisteddfod yr Urdd, prifwyl ieuenctid Cymru.

“Ni fydd Papur Gwyn yn dderbyniol heb ymrwymiad i Ddeddf Eiddo, a fydd yn darparu tai i’n pobol ifanc yn eu cymunedau, a bydd ein hymateb i’r Papur Gwyn yn amlygu hynny yn yr haf.”

Saith pwynt

Mae Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith yn seiliedig ar saith pwynt, sef:

  • sefydlu’r hawl i dai digonol yn lleol
  • cynllunio ar gyfer anghenion lleol
  • grymuso cymunedau
  • rhoi blaenoriaeth i bobol leol
  • rheoli’r sector rhentu
  • cymunedau cynaliadwy
  • buddsoddi mewn cymunedau

“Mae argyfwng tai gennym ni yma yng Nghymru, mae cyfoeth Cymru’n dal i adael y wlad, ac mae’n amser i ni ddweud ein bod ni wedi cael digon ar hynny,” meddai Beth Winter wrth golwg360.

“Mae’n rhaid i ni ffeindio ffyrdd i gadw’r cyfoeth yng Nghymru, i wneud yn siŵr bod yna ddigon o dai, a mynd i’r afael a chael gwared â’r tlodi a’r caledi mae pobol yn ei ddioddef.

“Rwy’n cytuno’n llwyr â’r saith egwyddor sydd wedi’u rhoi yn y ddeddf.”

Roedd Beth Winter hefyd yn galw am fwy o bwyslais ar fynd i’r afael ag “annhegwch” sy’n dod o San Steffan o ran yr amcanion oedd dan sylw yn yr orymdaith.

“Yn ogystal â newidiadau yn ein cymunedau ni yn lleol, mae’n rhaid i ni hefyd edrych tu allan i Gymru trwy barhau i herio San Steffan i gael digon o arian a mwy o ddatganoli.

“Dydyn ddim wedi cael arian o HS2, a gall yr arian yna a phŵer drwy fwy o ddatganoli, ein helpu ni wneud y pethau rydyn ni’n mo’yn eu gwneud yn ein cymunedau ni.”

30 mlynedd i wneud pethau’n iawn

Un arall fu’n siarad â golwg360 yw Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, sydd â chyfrifoldeb dros bortffolio tai.

Dywed fod mynediad i dai ar draws cymunedau Cymru yn “allwedd i bobol gael byw bywyd llawn ac iach”.

“Mae’r Gymdeithas wedi bod yn ymgyrchu dros ddeddf debyg i hyn ers dros hanner can mlynedd, felly mae’n rhaid talu teyrnged i’r gwaith sydd wedi cael ei wneud,” meddai.

“Mae’n rhaid cofio, dydy Deddf Eiddo ddim yn ymwneud â brics a mortar; rydym yn sôn am gymuned, am yr hawl i bobol fyw ag urddas o fewn y cymunedau yna.

“Mae’n rhaid sicrhau bod gan gymuned fynediad i waith, addysg, gwasanaethau iechyd, trafnidiaeth…”

Wrth drafod sut y byddai Plaid Cymru yn mynd i’r afael â’r broblem o fewn llywodraeth, pwysleisia Mabon ap Gwynfor y realiti, sef ei bod hi’n weledigaeth sydd am bara 30 mlynedd.

“Dydi hyn ddim yn rywbeth sydd yn gallu cael ei newid dros nos, ond mae’n rywbeth sydd yn angenrheidiol,” meddai.

“Byddwn eisiau gweld tai sydd yn cael eu perchnogi yn gyhoeddus yn dyblu o 15% i 30%; byddai hyn yn galluogi pobol sy’n gweithio i arbed arian, ac wedyn i allu prynu eu tai eu hunain.

“Ar hyn o bryd, mae cyfanswm dyledion morgeisi gan bobol yng Nghymru yn £39bn, ond £400m sydd yn ddyledus i gwmnïau o Gymru, lle mae’r gweddill yn mynd i gwmnïau tu allan i Gymru.

“Dydi o’n ddim syndod ein bod ni’n dlawd.

“Mae yna lot rydym yn gallu’i wneud rŵan.

“Mae’n bosib cael morgeisi sydd wedi’u cefnogi gan lywodraeth leol, a bydd hyn yn sicrhau bod pres yn mynd ’nôl i dai.”

Sicrhau dyfodol i blant a phobol ifanc Cymru

Un o brif negeseuon yr orymdaith oedd sicrhau dyfodol lle mae plant a phobol ifanc yn gallu byw o fewn eu hardaloedd genedigol.

“Fel rhywun o Forfa Nefyn, sy’n gymuned lle mae yna ganran uchel o ail gartrefi a chartrefi gwyliau, mewn cymunedau fel yma rydym yn gweld y sgil effaith os ydi pobol ifanc yn methu fforddio byw yn eu cymunedau,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wrth golwg360.

“Cymunedau sydd yn heneiddio, lle mae’r siopau yn mynd, lle mae’r ysgolion yn mynd, lle does gennym ni ddim y bobol i ddarparu’r swyddi hanfodol, fel gofalwyr.

“Mae’n rhaid i ni sicrhau bod yna gymysgedd teg, a bod yna gyfle teg i bobol ifanc gael aros yn eu hardaloedd.”

Wrth siarad â rhai o drigolion Blaenau Ffestiniog, roedd hi’n glir faint o fygythiad yw ail dai i’w cymuned.

“Mae cymuned Blaenau yn unigryw iawn, mae yna gymaint o AirBnBs ac ail dai yma, does yna ddim cartrefi lleol ar gyfer ein plant ni,” meddai Rhian Williams.

“Enghraifft o hyn ydi ardal yn Nhanygrisiau lle mae 52 o dai, a dim ond 17 sydd efo pobol yn byw ynddyn nhw, sydd yn frawychus.”