Mae trafodaethau anffurfiol wedi’u cynnal rhwng Catalwnia a Hwngari, gwlad Llywydd nesa’r Undeb Ewropeaidd, i geisio cefnogaeth i ymgyrch i sicrhau statws swyddogol i’r iaith Gatalaneg yn y sefydliad.
Yn ôl Llywodraeth Catalwnia, bydd magu perthynas dda â Hwngari yn allweddol i’w hymgyrch, wrth iddyn nhw geisio “adeiladu ymddiriedaeth”.
Mae’r ymgyrch wedi methu sawl gwaith yn y gorffennol, gan gynnwys mis Medi y llynedd, pan oedd Llywydd o Sbaen wrth y llyw.
Ond roedd nifer o aelodau’r Undeb Ewropeaidd yn poeni am oblygiadau cyfreithiol, gwleidyddol ac economaidd yr ymgyrch.
Ddechrau’r flwyddyn, gyda Gwlad Belg bellach yn llywyddu, cafodd trafodaethau eu gohirio o ganlyniad i ddiffyg cynnydd wrth asesu’r effeithiau, er bod Gwlad Belg yn gefnogol i’r ymgyrch.
Er mwyn newid polisi iaith yr Undeb Ewropeaidd, mae’n rhaid sicrhau cefnogaeth unfrydol gan yr holl wledydd sy’n aelodau.
Er nad oes yna’r un wlad wedi gwrthwynebu’r ymgyrch yn llwyr, mae gan rai gwledydd sydd â’u hieithoedd lleiafrifol eu hunain rai amheuon.
Etholiadau Ewrop
Mae disgwyl i etholiadau Senedd Ewrop gael eu cynnal ar Fehefin 9 eleni.
Mae disgwyl iddyn nhw awgrymu lefel y gefnogaeth i’r syniad o gydnabod y Gatalaneg yn iaith swyddogol, yn ôl Llywodraeth Catalwnia.
Pe bai’r pleidiau sydd o blaid yr ymgyrch yn nodi hynny yn eu maniffesto a bod ymgeiswyr yn cyfeirio at yr ymgyrch wrth geisio ennill pleidleisiau, mae Llywodraeth Catalwnia yn credu y byddai hynny’n cryfhau eu safbwynt.