Dylai Llafur Cymru bob amser fod yn unigryw ac yn hyderus Gymreig, yn ôl Jeremy Miles.
Mae’r Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn un o ddau ymgeisydd yn ras arweinyddol y blaid, ynghyd â Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi.
Dywed Jeremy Miles ei fod am weithio i sicrhau bod y blaid yn parhau i fod wedi’i “gwreiddio’n gadarn” mewn cymunedau ledled Cymru.
Mae’r ymgeisydd hefyd wedi nodi ei gynlluniau i sicrhau bod Llafur Cymru’n darparu cefnogaeth ymgyrchu fodern i ymgeiswyr y blaid yn San Steffan, er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posib yn yr etholiad cyffredinol.
Ei addewid yw y byddai’r blaid yn brwydro i gael y Llywodraeth Brydeinig mae pobol Cymru “ddirfawr ei angen”.
“Rwy’n falch o fod yn Gymro, ac yn falch o fod yn y Blaid Lafur,” meddai.
“Fy ngwerthoedd yw gwerthoedd Llafur Cymru – ac rwy’ wedi bod yn aelod o’r blaid ers dros 35 mlynedd.
“Mae Llafur Cymru yn gartref i bobol galonnog gydag angerdd a dawn, ac ymrwymiad i achosion cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.”
Dywed fod ei genhedlaeth e’n etifeddion o “draddodiad radical Llafur Cymru” gafodd ei llunio gan y cyn-arweinwyr Rhodri Morgan, Carwyn Jones a Mark Drakeford – rhywbeth yr hoffai adeiladu arno.
“Y dasg yw cymhwyso ein gwerthoedd parhaus i’r byd yr ydym yn byw ynddo, ac sydd yn newid,” meddai.
“Dan fy arweiniad i, byddwn yn gwneud yn union hynny.”
Dywed ei fod yn ymrwymo’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru i ymgysylltu’n barhaus â’r pleidiau Llafur etholaethol a’u partneriaid o dan ei arweiniad.
“Mae’n rhaid i ni gydnabod mai eu hymroddiad, eu hegni, a’u syniadau nhw yw pam rydyn ni’n llwyddo,” meddai.
Adlewyrchu amrywiaeth Cymru
Yn ei faniffesto, mae Jeremy Miles hefyd yn dweud bod yn rhaid i’r Blaid Lafur adlewyrchu’r Gymru fodern yn ei holl amrywiaeth.
Er mwyn cyflawni hynny, dywed fod rhaid gwarantu cynrychiolaeth menywod o fewn y blaid, cefnogi eu harweinyddiaeth, a gweithredu amcanion ymgyrchu Siarter Menywod Llafur Cymru.
Dywed y byddai’n mynd ati i chwilio am “ymgeiswyr dawnus” ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026, gan flaenoriaethu cynrychiolaeth well o ran ymgeiswyr sy’n fenywod, ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig, ymgeiswyr ag anableddau, ac ymgeiswyr o’r gymuned LHDT+.
“Rhaid i Lafur Cymru adlewyrchu pob rhan o’n gwlad – gogledd, de, trefol, gwledig – a chofleidio ein hymrwymiad cenedlaethol i’r Gymraeg ym mhopeth a wnawn fel plaid,” meddai.
“Byddaf yn gwrando ar brofiadau menywod o fewn ein mudiad wrth i ni barhau i ddileu rhwystrau i gynrychiolaeth ar bob lefel.
“Roeddwn yn falch o fod yn gefnogwr brwd o Siarter Menywod Llafur Cymru ers ei sefydlu ddegawd yn ôl.
“Mae’n waith y byddaf yn ei barhau fel arweinydd.”