Mae ffrae ar y gweill ynghylch a oes yna “argyfwng iaith Gymraeg” yn ysgolion Powys.
Yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir Powys ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 13), aeth cynghorwyr drwy gyfres o argymhellion pwyllgorau craffu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25.
Er mwyn mantoli’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae angen i’r Cyngor wneud toriadau, arbedion a chynhyrchu incwm gwerth £10.652m drwy eu gwasanaethau.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae pwyllgorau craffu’r Cyngor wedi bod trwy’r cynigion hyn yn fanwl, ac wedi llunio nifer o argymhellion i’r Cabinet ynghylch yr hyn maen nhw’n ei feddwl o’r gyllideb ddrafft.
Mae’r adroddiad ar yr argymhellion yn cynnwys yr adrannau sy’n egluro a yw’r Cabinet Rhyddfrydol/Llafur yn “derbyn, derbyn yn rhannol neu’n gwrthod” y sylwadau.
‘Y Gymraeg i bawb’
Roedd y Pwyllgor Dysgu a Sgiliau o’r farn fod angen i’r Cabinet fynd i’r afael â’r “argyfwng iaith Gymraeg” yn ysgolion Powys.
Mae’r sylw hwn wedi’i feirniadu gan aelodau’r Cabinet gan eu bod nhw wedi “gwrthod” y cyngor.
Yn y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Aled Davies, arweinydd y Grŵp Ceidwadol, ei bod yn “syndod mawr” fod y Cabinet wedi gwrthod yr argymhelliad.
“Rydych chi ond yn cyfeirio at ysgolion cyfrwng Cymraeg; maen nhw’n mynd yn wych, ond y darlun cyfan roedd y [pwyllgor] craffu yn canolbwyntio arno,” meddai.
“Dydy’r iaith Gymraeg ddim i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn unig, ond i bawb.
“Dw i’n credu mai dyna’r pwynt sydd wedi’i golli.”
‘Anodd ymateb i iaith nad yw’n benodol’
“Mae’n anodd ymateb i iaith nad yw’n benodol,” meddai’r Cynghorydd Rhyddfrydol Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys.
“Pan ydych chi’n cyfeirio at argyfwng, mae’n ennyn emosiwn ac mae diffyg eglurder.”
Ychwanega fod angen “argymhellion clir a chryno” ar y Cabinet er mwyn gallu ymateb iddyn nhw.
“Rydyn ni i gyd yn gwybod y dylai craffu fod yn broses sy’n seiliedig ar dystiolaeth,” meddai’r Cynghorydd Rhyddfrydol Richard Church.
“Dylai geisio osgoi’r defnydd o iaith emosiynol heb dystiolaeth i ategu ac i gefnogi hynny.
“Pan dw i’n darllen argymhelliad y Pwyllgor Dysgu a Sgiliau, dw i ddim yn gweld tystiolaeth sy’n cefnogi’r defnydd o’r gair argyfwng mewn perthynas â chyflwyno addysg Gymraeg ym Mhowys.”
‘Mwy o gynnydd’
“Rydyn ni wedi symud darpariaeth addysg Gymraeg yn ei blaen yn fwy dros y deuddeg mis diwethaf nag a gafodd ei weld ers blynyddoedd,” meddai’r Cynghorydd Rhyddfrydol James Gibson-Watt, arweinydd y Cyngor.
“Dydy hynny ddim yn golygu ein bod ni’n agos at fod yn orffenedig.
“Mae ffordd bell i fynd, ond mae’r ymrwymiad yno’n llwyr i ateb dyheadau mor gyflym ag y gallwn ni.
“Dw i’n credu y gallwch chi ddeall pam nad yw’r Cabinet yn arbennig o bles â’r gair hwnnw – argyfwng – o ystyried sut rydyn ni wedi symud pethau yn eu blaenau.”
Pryder am ddysgu Cymraeg mewn ysgolion Saesneg
“Y pwynt sy’n cael ei wneud yw nad yw [y Gymraeg] lle rydyn ni eisiau iddi fod,” meddai’r Cynghorydd Ceidwadol Gwynfor Thomas, cadeirydd y Pwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau.
Eglurodd fod ei bwyllgor yn gofidio am sut y byddai’r Gymraeg yn cael ei dysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
“Gyda chyllidebau mor dynn, fyddai ysgolion ddim yn gallu canolbwyntio ar unrhyw ymdrechion na chyllid i ddatblygu’r Gymraeg yn eu hysgolion,” meddai.
“O ganlyniad i bwysau cyllido, gallai ysgolion adael i’r iaith Gymraeg a phethau felly gwympo oddi ar eu rhestr o flaenoriaethau.”
Mae disgwyl i’r gyllideb ddrafft gael ei thrafod yng nghyfarfod llawn y Cyngor ddydd Iau, Chwefror 22.
Ysgol Bro Hyddgen
Yn y cyfamser, mae disgwyl i gais cynllunio gael ei gyflwyno i Gyngor Sir Powys fis nesaf er mwyn adeiladu ysgol newydd gwerth £49m i bob oed ym Machynlleth.
Mae’r Cyngor wedi cadarnhau eu bod nhw’n bwrw ymlaen i adeiladu’r ysgol newydd ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen, sy’n gampws cynradd ac uwchradd ar y cyd.
Yn gynharach yr wythnos hon, fe ddaeth i’r amlwg fod problemau posib yn wynebu’r prosiect hirddisgwyliedig, ar ôl i Cadw gadarnhau eu bod nhw wedi cael cais i restru adeilad presennol Ysgol Bro Hyddgen.
Fe fu’r Cyngor yn gweithio ar gais ar gyfer campws ysgol newydd ers 2017, ond mae wedi wynebu nifer o broblemau.
Dioddefodd y prosiect gwreiddiol yn Ysgol Bro Hyddgen ar ôl i’r cwmni adeiladu Dawnus fynd i’r wal yn 2019, arweiniodd at gynigion diwygiedig mwy o faint gan y Cyngor Annibynnol/Ceidwadol.
Fis Hydref 2022, penderfynodd y Cabinet leihau maint y cynlluniau ar gyfer campws ysgol Machynlleth, oedd i fod i gynnwys llyfrgell a chyfleusterau hamdden ar gost o ryw £48m yn ôl ffigurau 2020.
Ond erbyn Hydref 2022, roedd y gost wedi cynyddu i £66m, ac o ollwng y cynlluniau ar gyfer canolfan hamdden mae disgwyl i’r gost ostwng i £49.12m, gyda 65% o’r cyllid yn dod gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd yr achos busnes diwygiedig ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru fis Ionawr y llynedd, a’r gobaith oedd y byddai’r ysgol newydd yn cael ei hadeiladu a’i hagor i ddisgyblion erbyn 2026.