Mae Ysgrifennydd Pwyllgor Morgannwg y Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol yn edrych ymlaen at gyfnod tawel wrth i gyfnod y sir yn arwain y mudiad ddod i ben.
Daeth eu cyfnod yn sir nodwedd i ben yn swyddogol ar Ragfyr 8, a byddan nhw bellach yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb i Geredigion.
Wedi’i arwain yn fedrus gan y Llywydd John Homfray, dechreuodd Morgannwg eu taith yn 2019.
Oherwydd pandemig Covid-19, cafodd blwyddyn y sir nodwedd ei gohirio o 2021 i 2023, ond parhau wnaeth gwaith a brwdfrydedd Morgannwg.
Yn y blynyddoedd, diwethaf mae’r Gymdeithas wedi symud tuag at adfer ac adnewyddu adeiladau presennol, sy’n dod yn fwyfwy pwysig yn yr hinsawdd bresennol.
Yn ystod eu cyfnod fel sir nodwedd, mae Morgannwg wedi codi arian tuag at adnewyddu Neuadd De Morgannwg ar Faes Sioe Frenhinol Cymru fel rhan o’u hymdrechion i fod yn fwy cynaliadwy.
Codi ymwybyddiaeth
Wrth siarad â golwg360, mae Charlotte Thomas yn dweud ei bod hi’n gobeithio bod y sir wedi llwyddo dros y flwyddyn ddiwethaf i godi ymwybyddiaeth o waith y Gymdeithas.
Dywed fod eleni wedi bod yn flwyddyn “ddwys” i’r pwyllgor, a’i bod hi’n edrych ymlaen at wneud llai o hyn ymlaen.
“Rwy’n edrych ymlaen at lai o gyfarfodydd yn 2024, a llai o straen yn gyffredinol!” meddai.
“Mae wedi bod yn flwyddyn eithaf dwys.
“Byddaf yn ddiolchgar i gysgu yn y nos, a pheidio gorfod deffro a sgwennu nodiadau ar fy ffôn symudol i fy atgoffa i wneud rhywbeth y diwrnod wedyn.
“Mae wedi bod yn eithaf trwm.
“Roeddwn hefyd yn ysgrifennydd ardal y Fro [Bro Morgannwg].
“Trefnais i ddigwyddiadau ar gyfer ardal y Fro, oherwydd inni rannu Morgannwg yn dair ardal, a fi oedd yr unig ysgrifennydd ar gyfer hynny.
“Cawsom ddigwyddiad o fath gwahanol.
“Fel arfer mae’n ddigwyddiad muckland, neu’n ddigwyddiad glaswelltir; mae’n rhedeg bob yn ail flwyddyn.
“Doedden ni ddim eisiau cynnal digwyddiad muckland, felly fe benderfynon ni wneud rhywbeth bach amserol, sef ffermio cynaliadwy.
“Cymerodd hynny lawer o fy amser, ac rwy’n ddiolchgar fy mod i wedi cael seibiant nawr!”
Effaith Covid
Cafodd Covid-19 gryn effaith ar y pwyllgor, oherwydd roedd yn rhaid gohirio’u cyfnod trefnu, ac fe newidiodd pethau i fod ar-lein yn rhannol, er mwyn gofalu am aelodau hŷn y gymdeithas.
“Yn ystod Covid, roedd hi mor anffodus oherwydd cawsom ein gwthio ymlaen o ddwy flynedd arall,” meddai.
“Mae ein taith wedi bod bron i bum mlynedd gyda’n gilydd.
“Fe wnaethon ni newid i gyfarfodydd Zoom, a chynhalion ni sioe ar-lein hefyd.
“Roedden ni eisiau cynnal cyfarfodydd Zoom er mwyn cadw mewn cysylltiad.
“Mae rhai o’n haelodau’n eithaf oedrannus, felly roeddem am wneud yn siŵr eu bod yn iawn.
“Nifer o weithiau, fe wnaethon drefnu pethau ac yna bu’n rhaid eu canslo nhw oherwydd cyfyngiadau a phethau, oedd yn rhwystr.
“Cyn gynted ag yr oedden ni’n gwybod ein bod yn iawn i ddechrau arni eto, roedd popeth yn ei le i ddechrau eto yn llawn.
“Cafodd Covid effaith arnon ni, oherwydd mae gan bobol feddylfryd gwahanol i’r rhai cyn Covid.
“Roedd pobol yn fwy blinedig, ac roedd yn rhaid i ni hefyd fod yn fwy ymwybodol o beidio â chodi gormod am ddigwyddiadau, er mwyn i bawb allu dod i fwynhau.”
Cynnyrch lleol
Ond er gwaetha’r heriau, daeth cyfleoedd i’r pwyllgor hefyd.
Yn ôl Charlotte Thomas, roedd defnyddio a thynnu sylw at gynnyrch lleol Morgannwg a Chymru yn hollbwysig iddyn nhw, ynghyd â chynaliadwyedd a’r amgylchedd.
“Pan ddechreuon ni gyntaf, roedden ni am hyrwyddo a chadw popeth ym Morgannwg i ddechrau, a hefyd Cymru,” meddai.
“Roedd yn bwysig iawn cefnogi’n lleol.
“Cawson ni nwyddau o Grochendy Ewenni, bum munud i fyny’r ffordd o le’r oedden ni, mygiau hyfryd wedi’u gwneud ganddyn nhw.
“Mae Carrie Elspeth yn byw bum milltir oddi wrtha i, a wnaeth hi freichledau hyfryd, wedi’u gwneud yng Nghymru.
“Roedd gennym ni fragdy lleol yng Nghaerdydd hefyd, a wnaethon nhw gwrw lleol, ac fe wnaethon ni ei enwi’n Supreme Champion.
“Roedden ni am gefnogi cwmnïau ym Morgannwg.
“Cawsom yr holl ddillad wedi’u gwneud ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd ddim yn rhy bell – dyna un o’r pethau cyntaf i ni ddechrau ag e wrth gynllunio ein nwyddau.
“Fe wnaethon ni gefnogi’n lleol, a sicrhau cynaliadwyedd oherwydd yr ôl troed carbon; roedden ni’n ymwybodol iawn o hynny.
“Hefyd, fe ddefnyddion ni arlwywyr lleol ar gyfer digwyddiadau, a rhai llaethdai lleol hefyd.”
Codi ymwybyddiaeth
Wrth i’r sir anelu i godi ymwybyddiaeth o’u gwaith nhw a gwaith y gymdeithas yn ehangach, fe gawson nhw dractor yn mynd trwy Gaerdydd i godi ymwybyddiaeth ymhlith pobol yn y brifddinas.
Ond maen nhw hefyd wedi bod yn defnyddio dulliau mwy traddodiadol fel y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer hyrwyddo.
“Mae llawer o bobol ar y pwyllgor yn dod o gefndiroedd gwledig, ac rydym yn ymwybodol o’r gymdeithas, ond mae’n syndod faint o bobol sydd ddim yn ymwybodol,” meddai Charlotte Thomas.
“Rydyn ni bob amser wedi hyrwyddo’r gymdeithas pan ydyn ni wedi bod mewn gwahanol sioeau a digwyddiadau.
“Rydym hefyd yn hyrwyddo’r holl bostiadau mae’r gymdeithas yn eu rhoi ar gyfryngau cymdeithasol, sy’n bwysig iawn eu defnyddio er mwyn codi ymwybyddiaeth a chefnogi’r gymdeithas hefyd.
“Rydym yn codi arian i gefnogi’r gymdeithas hefyd, a siroedd y dyfodol yn codi’r arian sy’n cael ei ddefnyddio i wella’r cyfleusterau ar Faes y Sioe.”
Trosglwyddo i Geredigion
Gyda’u gwaith wedi dod i ben, mae Morgannwg bellach wedi trosglwyddo’r cyfrifoldeb i Geredigion ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Denley Jenkins fydd yn arwain ar y gwaith yng Ngheredigion, ac mae wedi’i ganmol fel un y mae ei brofiad heb ei ail ac sy’n uchel ei barch.
Hefyd yn cymryd yr awenau mae Esyllt Ellis Griffiths, sydd wedi’i hethol yn swyddogol i fod yn Llysgennad.