Bydd gorymdaith yn cael ei chynnal ym Mangor ddydd Sadwrn (Rhagfyr 9), er mwyn clywed pryderon pobol ifanc leol am yr argyfwng hinsawdd.

Daw hyn wrth i drafodaethau hinsawdd COP28 fynd yn eu blaenau ymysg rhai o arweinwyr y byd.

Mae Lowri Vaughan, hwylusydd GwyrddNi yn Nyffryn Peris, wedi bod yn gwneud ychydig o waith paratoi gyda phobol ifanc yr ardal wrth i’r orymdaith agosáu.

Dywed ei bod wedi dod yn amlwg yn hanesyddol ei bod yn “hanfodol” rhoi cyfle i bobol ifanc fynegi eu pryderon a galw am newid.

“Mae pob math o fudiad neu symudiad hanesyddol sydd wedi mynnu newid cymdeithasol mor sylweddol ag sydd ei angen wedi digwydd pan mae pobol ifanc yn camu i fyny,” meddai wrth golwg360.

“Yn hanesyddol, dyna pryd mae newid wedi digwydd, pan mae myfyrwyr wedi protestio, fel yn y ’60au a’r ’70au.

“Mae’n anodd iawn i bobol ifanc osgoi newid hinsawdd ar y funud; mae o yn y cwricwlwm ac ym mhob rhan o fywyd.”

Prosesu’r argyfwng trwy fod yn greadigol

Ddydd Sul (Rhagfyr 3), cymerodd Lowri Vaughan ran mewn sesiwn baratoadol ar gyfer yr orymdaith.

Bydd gweithdy creadigol arall hefyd yn cael ei gynnal cyn yr orymdaith, er mwyn rhoi’r cyfle i bobol ifanc greu baneri a phosteri.

“Mae hwnna yn agwedd bwysig o’r diwrnod, mae’n gyfle i siarad a chlywed y ffeithiau a’r difrifoldeb o’i gwmpas ac yna cael ffordd o brosesu hynna trwy fod yn greadigol,” meddai wedyn.

“Wnes i ffeindio hynny nos Sul, fod pobol yn gallu ymgolli mewn creu poster neu greu darn o gelf; mae yna elfen therapiwtig iawn yn hynny hefyd.”

Ychwanega mai digwyddiad heddychlon fydd yr orymdaith ddydd Sadwrn, ac nad oes angen i rieni fod yn bryderus os yw eu plant yn bwriadu mynd.

“Dw i’n meddwl, o ran gorymdeithio a digwyddiadau fel hyn, fod pryderon o bosib o ran sut mae’r heddlu wedi delio gyda nhw mewn llefydd fel Llundain,” meddai.

“Ond mae yna berthynas da gyda Heddlu’r Gogledd, maen nhw’n ymwybodol o’r cynllun ac rydyn ni’n cadw ar y palmant fel bod yna ddim rhwystrau.”

Bydd y gweithdy yn cychwyn ar ail lawr Pontio am 1 o’r gloch, gyda gorymdaith heddychlon trwy ganol y ddinas am 2:30yp.

Bydd siaradwyr yn ymgynnull tu allan i Pontio am 3:30yp yn dilyn yr orymdaith, ac er bod y digwyddiad wedi ei dargedu at bobol ifanc, mae croeso i bob cenhedlaeth ymuno.

Chwaraewyr da a drwg wrth frwydro dros yr hinsawdd

Eleni, mae cynhadledd newid hinsawdd COP28 yn cael ei chynnal yn Dubai.

Mae rhai wedi beirniadu’r ffaith mai Sultan al-Jaber, prif weithredwr cwmni olew, yw llywydd y trafodaethau eleni, o ystyried effaith negyddol olew ar yr hinsawdd.

Ond yn ôl Lowri Vaughan, mae digwyddiadau COP yn llwyddo o hyd i sbarduno newid cadarnhaol.

Er bod rhai gwleidyddion yn cael eu hysgogi gan eu diddordebau personol, dywed fod eraill sydd wir eisiau mynd i’r afael â newid hinsawdd.

“Mae yna andros o lot o wleidyddion ledled y byd sydd eisiau gwneud gwahaniaeth, ac mae mwyafrif helaeth o wledydd y byd yn cymryd camau cadarnhaol, trawsnewidiol,” meddai.

“Yn anffodus, mae’r ganran fach o bwerau mawrion yn parhau i chwarae gyda mwg a drychau.

“Mae yna lot o sgwrsio a chynllunio a chydweithio arbennig yn dod allan o ddigwyddiadau fel COP28, ac mae’n hanfodol cadw’r ffocws ar y broblem.

“Ond hefyd, mae yna actorion drwg yn mynd i’w ddefnyddio fel cerbyd i symud eu diddordebau eu hunain ymlaen.

“Dydy o byth yn un neu’r llall.”