Fyddai hi ddim yn gwneud llawer o synnwyr i Gymru fod â pholisïau sero net gwahanol i rai’r Deyrnas Unedig, yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis.

Dywed y sylwebydd ar faterion Cymreig, sy’n cyfrannu at gyhoeddiadau Prydeinig megis The Spectator, y bydd yn ddiddorol gweld a fydd trafodaethau ar sero net yn newid yn dilyn cyhoeddiadau Rishi Sunak, Prif Weinidog Ceidwadol y Deyrnas Unedig.

Bu Rishi Sunak yn wynebu craffu dros y dyddiau diwethaf, wrth i rai ddweud ei fod yn ystyried ‘gwanhau’ polisïau sero net.

Ymysg y polisïau sy’n cael eu cwestiynu mae’r trafodaethau am ohirio’r gwaharddiad ar werthu ceir petrol newydd, a chael gwared ar fwyleri nwy.

Er hynny, mae Rishi Sunak yn honni ei fod yn hyderus bydd y Deyrnas Unedig yn llwyddo i gyrraedd eu targedau sero net erbyn 2030.

‘Cymru’n arwain y ffordd’

Yn ôl Theo Davies-Lewis, er bod Cymru wedi bod yn arwain y ffordd ar bolisïau gwyrdd ers tro, dydy hi ddim yn gwneud llawer o synnwyr ceisio dilyn trywydd sero net gwahanol i weddill y Deyrnas Unedig.

“Mae o’n rywbeth cymhleth, achos os ydych chi’n wlad fach beth bynnag, mae’n anoddach i gyrraedd y targedau,” meddai wrth golwg360.

“Ond rhaid i ni gofio, yn sgil y newyddion gan Rishi Sunak, ein bod ni yn rhan o’r Deyrnas Unedig, ac ein bod ni yn trio i ryw raddau i greu cysylltiadau cryf gyda pholisïau llun mawr gyda gwleidyddion eraill.

“Dyw e ddim yn gwneud lot o synnwyr, sa i’n credu, i weld Cymru gyda thargedau gwahanol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig neu Loegr, gwlad drws nesaf i chi gyda 50 miliwn o bobol yn anelu at rywbeth gwahanol i Gymru.”

“Diddorol” clywed ymatebion y Blaid Lafur

Dywed Theo Davies-Lewis y bydd yn ddifyr gweld sut mae Llafur yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn ymateb i sylwadau Rishi Sunak wrth i’r sefyllfa ddatblygu.

“Byddai e’n eich helpu chi’n wleidyddol os ydych chi’n edrych fel eich bod chi’n fwy gwyrdd na gwleidydd neu Blaid sy’n eich gwrthwynebu chi,” meddai.

“Ond bydd e’n ddiddorol gweld sut fydd Mark Drakeford a Julie James a phawb arall yn ymateb, achos mae Cymru wedi arwain y ffordd, rydw i’n credu, ar bolisïau amgylcheddol a pholisïau gwyrdd.

“Mae’n teimlo fel bod y tir gwleidyddol yn newid ar net sero ar yr asgell dde, a bydd yn ddiddorol ddim jest i weld beth fydd yn digwydd gyda Mark Drakeford, ond hefyd sut fydd Keir Starmer yn ymateb.

“Rydw i’n siŵr fyddai hwnna’n ddadlennol iawn i mi fel sylwebydd, i weld sut mae’r Blaid Lafur Gymreig yn ymateb os yw [safbwynt] Keir Starmer yn symud tipyn bach, fel mae wedi’n barod, am net sero dros yr wythnosau nesaf.”

Mae Steve Reed, ysgrifennydd amgylcheddol Llafur yn San Steffan, eisoes wedi dweud y bydd y blaid yn dadwneud penderfyniad Rishi Sunak i oedi’r amserlen ar gyfer gwahardd ceir petrol am bum mlynedd, o 2030 i 2035.

Ond mae Keir Starmer wedi dewis peidio beirniadu nac ymateb i gyhoeddiadau’r Prif Weinidog.

Mae sawl gweinidog wedi bod yn galw ar Keir Starmer i egluro beth yw ei safbwynt ar bolisïau sero net, yn enwedig gyda’r disgwyl y bydd y blaid yn dod i rym yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Cwestiwn brys

Yn ystod y cyfarfod llawn yn Senedd Cymru ddoe (dydd Mercher, Medi 20), daeth cwestiwn brys gan Delyth Jewell, llefarydd newid hinsawdd Plaid Cymru.

“A wnaiff y gweinidog ddatganiad ar sut y bydd y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ei bod yn ystyried gohirio’r gwaharddiad ar werthu ceir petrol a disel newydd tan 2035 yn effeithio ar ymrwymiadau sero net Cymru?” meddai.

Dywedodd Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, fod angen mwy o amser i ystyried sylwadau Rishi Sunak cyn ymateb yn llawn, ond fod angen gweithredu polisïau sero net yn hwyr neu’n hwyrach.

“Mae’r dystiolaeth yn glir iawn: po gynharaf y byddwn yn gweithredu i gyflawni polisïau sero net, y lleiaf fydd y gost i fusnesau a chymunedau a’r mwyaf fydd y budd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y byddwn i gyd yn ei weld,” meddai.