Fydd Alun Davies ddim yn cael y frwydr oedd e’n gobeithio amdani ym Mlaenau Gwent bellach. Er iddi ddweud y byddai hi’n sefyll eto fel ymgeisydd annibynnol yn yr etholaeth wedi ennill y sedd ar ôl marwolaeth ei gwr Peter Law mewn is-etholiad yn 2006 a chynyddu ei phleidlais yn fuan wedi hynny yn etholiad 2007, mae Trish Law wedi penderfynu mai bod yn fam a mam-gu yw ei dyhead hi wedi Mai 2011 -er ei bod hi’n ffyddiog y gallai hi ennill eto pe bai hi’n sefyll.

Gydag Alun Davies wedi achub ar bob cyfle i gollfarnu a bychanu Trish Law -dim ond dydd Gwener diwetha roedd e’n trydar “Just bought some new canvassing shoes. Look out Trish – I’m coming after you!!” -mae Trish Law wedi ergydio nôl wrth gyhoeddi ei hymadawiad ac egluro beth mae hi’n mwynhau ac yn casau am fod yn aelod cynulliad.

I have no time for the continuous political bickering and sniping that goes on in the Senedd. And it achieves nothing for the people, ” meddai hi gan ychwanegu’n hwyrach, yn ddiamwys gyfeirio at Alun Davies: “I am grateful to the political opponents who have fought me at the polls on two occasions, not least former Labour candidates John Hopkins and Keren Bender. They waged clean and honourable campaigns, although sadly the same cannot be said of the current prospective Labour candidate for Blaenau Gwent. The only way he knows how to fight is dirty, and I daresay he will be rubbing his hands with glee at my announcement today.

Fe fyddai wedi bod yn ddifyr gweld beth fyddai wedi digwydd pe bai Trish wedi dewis amddiffyn ei sedd. Bydd rhaid i Alun Davies ail-ystyried ei dactegau ymgyrchu nawr nad oes ganddo gocyn hitio mor rhwydd yn AC cyfredol yr etholaeth. Ei hoff ysglyfaeth arall yw’r Democratiaid Rhyddfrydol felly mae’n siwr y bydd yr ymosodiadau arnyn nhw’n cynyddu rhwng nawr a mis Mai!

Mae mwy ar y stori yma.

DIWEDDARIAD: Rwy’n clywed bod menyw arall yn dangos diddordeb yn herio Llafur ym Mlaenau Gwent gan barhau ag achos ymgeiswyr annibynnol yn yr etholaeth sy’n anniddig gyda agwedd Llafur tuag at y lle. Heb y cyswllt â Peter Law, a’r saga rhestrau merched-yn-unig mae’n gwestiwn gen i a fyddai aelod annibynnol mor llwyddiannus â Trish Law a’r cyn AS annibynnol Dai Davies yn erbyn Llafur ym Mlaenau Gwent.