Gyda’r cyhoeddiad yn ddiweddar y bydd Pont Menai ar gau am beth amser tra bod gwaith cynnal a chadw yn cael ei gwblhau, pa effaith fydd hyn yn ei chael ar fusnesau ac unigolion yr ardaloedd cyfagos, wrth iddyn nhw geisio parhau i fyw a gweithio o ddydd i ddydd?
A fydd y sefyllfa o gael mynediad i’r ynys ac yn ôl yn gwaethygu yn nes tuag at yr haf?
Mae yna gwestiynau sydd angen eu hateb yn ôl rhai.
Aeth Owain Llyr draw i glywed gan Rhun ap Iorwerth, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd ym Môn, a rhai o drigolion a busnesau’r ardal…