Mae gweithwyr iechyd yn dweud nad ydyn nhw’n gallu cynhesu eu cartrefi, yn ôl Unsain Cymru.

Daw sylwadau’r undeb ar drothwy pleidlais ar gyfnod o weithredu’n ddiwydiannol ymhlith miloedd o weithwyr yn y Gwasanaeth Iechyd.

Mae 500,000 o borthorion, nyrsys, swyddogion diogelwch, parafeddygon, glanhawyr, bydwragedd, therapyddion galwedigaethol a staff eraill y Gwasanaeth Iechyd wedi bod yn streicio yn yr Alban ers dechrau’r mis.

Daw hyn yn dilyn cynnig tâl o £1,400 sy’n cael ei ystyried yn annerbyniol.

Mae’r undeb yn dweud eu bod nhw wedi clywed am weithwyr yn ailforgeisio’u cartrefi ac mewn rhai achosion yn byw oddi ar ddiet o fara a chawl er mwyn goroesi.

Mae rhai fel Lorna Hood, sy’n gweithio yn Abertawe, wedi gweld eu biliau’n dyblu, ac wedi gorfod cysylltu â’u darparwyr ynni yn sgil pryderon na fyddan nhw’n gallu talu eu biliau dros y gaeaf.

Mae hi’n teithio 50 milltir i’r gwaith ac yn ôl bob dydd, ac yn dweud nad oes trafnidiaeth gyhoeddus addas er mwyn iddi gyrraedd y gwaith yn brydlon.

“Mae fy ngwariant wedi codi cymaint fel bod tanwydd yn fy nghar wedi mynd o £48 i £80-£90 i’w lenwi,” meddai.

“Mae’n rhaid i fi deithio 50 milltir y dydd ar gyfer gwaith a does dim cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus.

“Mae angen cyswllt bws ar gyfer y trên cyntaf, ac mae’n cyrraedd fy ngweithle am 10yb ond dw i’n dechrau am 7yb.”

‘Torcalonnus’

“Mae’n dorcalonnus clywed am weithwyr iechyd sy’n ofni na fyddan nhw, efallai, yn gallu fforddio cynhesu eu carterfi y gaeaf hwn,” meddai Hugh McDyer, Pennaeth Iechyd Unsain Cymru.

“Ateb terfynol yw gweithredu ar ffurf streic bob tro, ond dydy’r tâl o £1,400 ar gyfer gweithwyr iechyd ddim yn agos at fod yn ddigonol, ac mae’n gadael pawb yn y Gwasanaeth Iechyd ar eu colled.

“Mae hwn yn doriad cyflog mewn termau real ar draws pob band cyflog y Gwasanaeth Iechyd.”

Mae miloedd o bapurau pleidleisio eisoes wedi cael eu postio allan, ac mae’r undeb yn annog gweithwyr iechyd i’w dychwelyd nhw’n brydlon er mwyn goresgyn cyfreithiau blaenorol ar ganrannau pleidleisio a gafodd eu gosod gan y Ceidwadwyr fel rhan o lywodraeth flaenorol.