Mae Cymdeithas yr Iaith wedi derbyn hwb gan arbenigwr o Wlad y Basg wrth iddo ddatgan ei gefnogaeth i’r alwad i osod nod statudol y dylai pob plentyn yng Nghymru dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
Daw hyn ar drothwy Symposiwm Deddf Addysg Gymraeg i Bawb.
Dyna brif bwrpas cynnig deddfwriaethol y mudiad iaith a gafodd ei lunio gan Keith Bush, Cymrawd Cyfraith Cymru.
Mae Bil drafft y mudiad yn dangos mewn modd cwbwl ymarferol sut mae’n bosibl rhoi addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn.
“Mae system addysg Gwlad y Basg wedi dangos bod angen i blant dderbyn addysg cyfrwng Basgeg er mwyn dod yn rhugl yn y Fasgeg,” meddai Paul Bilbao Sarria o fudiad Euskalgintzaren Kontseilua Gwlad y Basg.
“Mae’n dilyn bod yr un peth yn wir am y Gymraeg.
“Yn fwy na hynny, mae’n rhaid blaenoriaethu hawliau’r plentyn.
“Mae amddifadu plant o addysg cyfrwng Cymraeg yn mynd yn erbyn y cysyniad o gyfiawnder cymdeithasol.
“Byddaf yn esbonio yn Seminar Cymdeithas yr Iaith sut i ni yng Ngwlad y Basg sicrhau bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn medru’r Fasgeg yn rhugl, a sut y gallai’r un peth fod yn bosibl i’r Gymraeg yng Nghymru petai’r Llywodraeth yn pasio deddf addysg debyg i Ddeddf Addysg ddrafft Cymdeithas yr Iaith.”
‘Yr uchelgais yn gyraeddadwy gydag ewyllys wleidyddol’
“Wrth inni aros am gynnwys Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, mae’r Symposiwm yn gyfle i drafod ein deddf drafft, sy’n cynnig gosod nod statudol yn y ddeddf arfaethedig fyddai’n golygu fod holl blant Cymru yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050,” meddai Catrin Dafydd ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.
“Rhaid rhoi terfyn ar allgáu 80% o blant o’r cyfle i ddod yn rhugl yn yr iaith gan roi holl ysgolion Cymru ar daith at fod yn rhai cyfrwng Cymraeg.
“Ac mae tystiolaeth Paul Bilbao Sarria o wlad y Basg yn glir fod yr uchelgais o roi cyfle cyfartal i bob plentyn yn gyrhaeddadwy os yw’r ewyllys wleidyddol yn bodoli.”
Hefyd ar y panel bydd Keith Bush, Cymrawd Cyfraith Cymru; Alun Davies, Aelod o’r Senedd sy’n noddi’r digwyddiad; a’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, cadeirydd Rhwydwaith Ymchwil Cydweithredol: Addysg Ddwyieithog a’r Gymraeg, sy’n cadeirio.
Bydd y Symposiwm yn dechrau am 10.30yb yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd.