Mae Aelod o’r Senedd Ynys Môn wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu ymgeisio am enwebiad ei blaid ar gyfer sedd yn San Steffan.

Mae Rhun ap Iorwerth wedi bod yn cynrychioli Plaid Cymru ym Mae Caerdydd ers 2013.

Virginia Crosbie, yr Aelod Seneddol Ceidwadol, sy’n cynrychioli’r etholaeth yn San Steffan ers 2019.

Dydy’r broses o enwebu ymgeisydd y blaid ar gyfer sedd San Steffan heb ddechrau eto, ond mae llefarydd ar ran Rhun ap Iorwerth wedi cadarnhau ei fwriad i drio cael ei enwebu pan fydd y cyfle’n codi wrth golwg360.

‘Cynrychiolydd heb ei ail’

Wrth ymateb, dywedodd Liz Saville Roberts, Arweinydd y blaid yn San Steffan, ei fod yn “newyddion ardderchog”.

“Bydd Rhun ap Iorwerth yn gynrychiolydd heb ei ail i’r Fam Ynys ac i Gymru yn San Steffan.”

Dydy Plaid Cymru heb gynrychioli Ynys Môn ers 2001, er bod y sedd wedi bod yn darged iddyn nhw ers blynyddoedd.

Ond wrth siarad â golygydd gwleidyddol ITV Wales, Adrian Masters, dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod wedi dod dan bwysau i sefyll er mwyn cryfhau ymdrechion Plaid Cymru yn San Steffan i gwffio ymgais Llywodraeth y Deyrnas Unedig i “danseilio” datganoli.

Daeth ymgeisydd Plaid Cymru yn Ynys Môn yn drydydd yn Etholiad Cyffredinol 2019, gyda 2,541 o bleidleisiau’n llai na’r Ceidwadwyr Cymreig.