Ifan Morgan Jones sy’n dweud y dylai Undeb Rygbi Cymru geisio cadw gafael ar Warren Gatland…

Wrth i Gwpan y Byd Rygbi 2011 agosáu mae yna gryn dipyn o ddyfalu ynglŷn â dyfodol hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.

Mae cytundeb y dyn o Seland Newydd yn dod i ben bryd hynny ac mae o wedi lled awgrymu y bydd o’n dychwelyd i Seland Newydd.

Hyfforddwr presennol Gleision Caerdydd, Dai Young, yw’r ffefryn i gymryd ei le ar hyn o bryd ar ôl disgwyl ei dro yn amyneddgar.

Mae disgwyl i Gatland benderfynu a ydi o’n mynd i adael y wlad yn reit fuan, tuag adeg y gemau nesaf ym mis Hydref mae’n siŵr. Y cwestiwn wedyn ydi i ba raddau y dylai Undeb Rygbi Cymru fynd ati i geisio ei gadw.

Wedi’r cwbl, heblaw am lwyddiant cynnar Camp Lawn 2008, dyw Cymru heb ddisgleirio o dan ei oruchwyliaeth. Ar ôl cyfnod o edrych fel pe baen nhw’n barod i herio rhai o dimau’r Tair Gwlad, maen nhw wedi mynd am yn ôl ac yn gorfod crafu buddugoliaethau lwcus yn erbyn timau fel yr Alban.

Dyma bwt diddorol oddi ar flog yr Hogyn o Rachub ynglŷn â sefyllfa Gatland:

Petai Cymru’n cael gemau siomedig yn yr hydref, Chwe Gwlad annigonol, a Chwpan y Byd gwael – o ran canlyniadau, sef y peth pwysig – fe allai rhywun ddadlau o bosib bod cyfnod Gatland wrth y llyw wedi bod yn anfoddhaol ar y cyfan, er gwaethaf y Gamp Lawn gychwynnol yn 2008. Ond erbyn hynny gallai fod wedi arwyddo cytundeb newydd a gallai Cymru fod yn styc efo rheolwr sydd ddim wedi gwneud y job gystal ag y dylai gyda’r adnoddau sydd ganddo.

Yn ôl i Seland Newydd

Mae’n wir nad ydi Warren Gatland wedi gwneud cystal â’r disgwyl (er bod yna beryg o danbrisio Camp Lawn 2008 yn sgil llwyddiant 2005).

Ond fy marn i yw y dylai Undeb Rygbi Cymru wneud popeth o fewn eu gallu i’w gadw. Mae o’n hyfforddwr gwych, hyd yn oed os nad ydi’r canlyniadau wedi adlewyrchu hynny bob tro.

Y gwirionedd trist yw ei bod hi’n dasg anoddachhyfforddi Cymru nag hyfforddi Lloegr, Seland Newydd, Ffrainc, De Affrica neu Awstralia.

Does gan yr hyfforddwr ddim yr un gronfa o chwaraewyr, does dim yr un dyfnder yn y sgwad, does dim yr un adnoddau ariannol, a dyw’r wlad na’r chwaraewtr ddim yn meddwl eu bod nhw’n mynd i ennill.

Fel gwlad rydym ni’n tueddu i wneud yn well na’r disgwyl ond ar ddiwedd y dydd mae unrhyw hyfforddwr sy’n dod yma yn gorfod gwneud ei orau gydag adnoddau digon prin.

Edrychwch ar Graham Henry. Fe gafodd o’r sac ar ôl cyfres o ganlyniadau trychinebus gyda Chymru ond fel hyfforddwr Seland Newydd mae o newydd eu harwain nhw at fuddugoliaeth ym mhencampwriaeth y Tair Gwlad heb golli’r un gêm.

Wnaeth Graham Henry ddim troi o fod yn hyfforddwr gwael i un da dros nos ar ôl gadael Cymru am ei famwlad.

Pe na bai Undeb Rygbi Cymru yn llwyddo i gadw Gatland, fe fyddai’n siŵr o fod yn ffefryn i olynu Graham Henry yn hyfforddwr ar y Crysau Duon.

Dwi’n siŵr y byddai’n gwneud llwyddiant mawr o hynny, a ninnau, fel arfer, heb symud modfedd ac yn cicio ein hunain am adael iddo fynd.