Mae chwaraewr rheng ôl y Dreigiau, Danny Lydiate wedi dweud bod angen i’r rhanbarth gweithio ar chwarae’n gyson trwy gydol y gêm yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Glasgow ddoe.

Fe enillodd tîm Paul Turner 23-11, ond roedd hynny’n ddiolch i perfformiad hanner cyntaf cadarn, gyda’r Dreigiau ar y blaen 23-3 ar yr egwyl.

Fe gollodd y Dreigiau Tom Willis, Ben Castle a Joe Bearman cyn y gêm a’r maswr, Jason Tovey wedi naw munud, ac fe ddechreuodd y Cymry’r gêm yn sigledig.

Ond fe sgoriodd Robin Sowden-Taylor ac Aled Brew geisiau i helpu’r Dreigiau sicrhau mantais sylweddol ar hanner amser.

Fe ddaeth Glasgow yn ôl mewn i’r gêm yn yr ail hanner gyda wyth pwynt gyda Richie Gray yn sgorio cais.

Fe gynyddodd yr Albanwyr y pwysau ar y tîm cartref ond roedd y Dreigiau yn ddigon cadarn i atal Glasgow thag ychwanegu mwy o bwyntiau.

“Roedden ni wedi chwarae’n dda yn yr hanner cyntaf, ond fe aeth pethau’n llac yn yr ail hanner,” meddai Lydiate.

“Roedden ni wedi gwneud yn dda i sefydlogi’r gêm tuag at y diwedd ond mae angen i ni weithio ar fod yn gyson am 80 munud llawn”

“Fe fethwyd ambell dacl yn yr ail hanner a doedden ni ddim yn trafod y bêl cystal heddiw.

“Ond r’yn ni wedi dangos llawer o gymeriad, yn enwedig gyda’r chwaraewyr yn tynnu’n ôl o’r tîm ar y funud olaf a colli Jason Tovey yn gynnar yn y gêm.”