Mae prif archwilydd niwclear y Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio nad yw’n gallu sicrhau fod amcanion rhaglen niwclear Iran yn hollol heddychlon.
Y rheswm am hyn, yn ôl Yukiya Amano, yw nad yw awdurdodau Tehran yn cydweithredu’n llawn efo arolygwyr ei adran.
Mae’n honni bo rhai o’r arolygwyr wedi cael eu gwahardd rhag cael ymchwilio yno.
Gwnaeth y sylw mewn cyfarfod rhwng aelodau’r Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol yn Vienna.
Amheuon
Mae ofnau bod Iran yn ceisio datblygu arf atomig, ond mae awdurdodau’r wlad yn honni mai eu hunig amcan yw defnyddio technoleg niwclear i greu ynni.
Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi gosod sancsiynau ar Iran am wrthod rhoi’r gorau i gyfoethogi wraniwm – sy’n gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer creu ynni ac arfau niwclear.