Mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi cyhoeddi mai Brian Flynn fydd hyfforddwr dros dro Cymru ar gyfer eu gemau rhagbrofol ym mis Hydref.

Fe fydd hyfforddwr tîm dan 21 Cymru wrth y llyw ar gyfer y gemau yn erbyn Bwlgaria yng Nghaerdydd ar 8 Hydref a’r Swistir yn Basel ar 12 Hydref.

Mae’r gymdeithas hefyd wedi cyhoeddi bydd David Williams ac Alan Curtis sy’n rhan o dîm hyfforddi dan 21 Cymru, yn ei gynorthwyo gyda’r garfan hŷn.

“Mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru yn wrth ei bodd i gyhoeddi bod Brian wedi cytuno i gynorthwyo gyda’r ddwy gêm wrth i ni ystyried y swydd llawn amser,” meddai Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl Droed Cymru, Jonathan Ford.

“Rwy’n gobeithio bydd y cefnogwyr yn dod allan i’w gefnogi ef a’r tîm yn y gêm yng Nghaerdydd ar 8 Hydref.”

Mae Brian Flynn wedi dweud ei fod yn gobeithio bydd yn gallu profi ei allu yn y ddwy gêm ragbrofol nesaf er mwyn ceisio sicrhau’r swydd yn llawn amser.

“Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda John Toshack ac rwy’n teimlo ein bod wedi gwneud gwaith da i ddatblygu tîm ar gyfer y dyfodol,” meddai Flynn.

“Yn naturiol, fel Cymro balch, rwyf wastad wedi moyn y swydd yma. Rwy’n deall nad yw ond am ddwy gêm, ond fe fyddaf yn gwneud fy ngorau i sicrhau canlyniadau er mwyn gallu mynd am y swydd yn barhaol.”

Mae Flynn yn gyn-gapten ar Gymru gyda 66 cap i’w enw. Mae ganddo brofiad helaeth fel rheolwr ar ôl treulio 12 mlynedd gyda Wrecsam a dwy gydag Abertawe cyn cychwyn hyfforddi tîm dan 21 Cymru.