Mae cynllun i wahardd hysbysebu meddyginiaethau antibiotig i dda byw’n achosi pryder mawr i ffermwyr, yn ô undeb amaethyddol.

Wrth ymateb i gynigion gan y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol, pwysleisia
Undeb Amaethwyr Cymru y dylid trin ffermwyr fel “gweithwyr proffesiynol” wrth ddelio gyda da byw ac nid fel “aelodau o’r cyhoedd yn unig.”

Mae’r undeb eisoes wedi anfon adroddiad at y Gyfarwyddiaeth yn mynegi eu pryder.

“Os bydd y cynigion hyn yn cael eu cymeradwyo gan Weinidogion, byddai cwmnïau’n cael eu gwahardd rhag hysbysebu cynhyrchion meddyginiaethol ar gyfer anifeiliaid i ffermwyr gan eu gadael heb wybodaeth allweddol ar iechyd anifeiliaid ac afiechyd,” meddai dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Jones, ffermwr eidion a defaid yn ardal y Bala.

“Milfeddygon yn unig fyddai wedyn yn cael eu caniatáu i farchnata cynhyrchion o’r fath.”

‘Hyfforddiant’

Ar ôl ymgynghori â’u holl ganghennau mewn 12 sir, mae Undeb Amaethwyr Cymru’n tynnu sylw at y ffaith fod gan “ffermwyr da byw’r hyfforddiant angenrheidiol, y profiad a’r wybodaeth i gael eu diffinio fel “gweithwyr proffesiynol.”

“O ystyried bod ffermwyr yn gyfrifol am gynhyrchu bwyd sy’n ddiogel i fwyta ac sy’n cael ei gynhyrchu i safonau amgylcheddol uchel, mae’r Undeb yn credu ei bod yn hanfodol y dylent allu cael gwybodaeth sy’n effeithio’n uniongyrchol ar iechyd y da byw sydd o dan eu gofal,” meddai Emyr Jones.

Mae gwaharddiad ar hysbysebu wedi’i wrthod yn bendant gan ffermwyr mewn arolwg Farmers Guardian yr wythnos hon hefyd.

Fe wnaeth 94 y cant o ymatebwyr ddweud eu bod yn teimlo’n gryf yn erbyn unrhyw ailddosbarthu statws ffermwyr proffesiynol.

Fe wnaeth 87% ddweud eu bod yn “teimlo’n gryf” yn erbyn gwaharddiad.