Mae golygydd y gyfrol o waith Dic Jones, Cerddi Dic yr Hendre, wedi disgrifio’r bardd wrth Golwg360 fel “bardd pwysig, o ran disgleirdeb crefft ei gerddi ac o ran treiddgarwch eu sylwedd.”

Ar ôl dethol a golygu’r gyfrol newydd ‘Cerddi Dic yr Hendre’ mae Ceri Wyn Jones wedi disgrifio gwaith y bardd fel rhywbeth sy’n “glasurol” ond “yn agos atoch.”

Roedd ganddo’r gallu hefyd yn ôl y golygydd i fod yn “ysgafn ac yn ddifrifol ar yr un gwynt” – ac fe “lwyddodd i gynnal safon ei waith dros gyfnod o hanner can mlynedd, gan wybod nad oedd yn ddigon i ddibynnu ar enw da’r gorffennol.”

Wrth drafod ei gerddi, meddai:

“…mae ynddynt optimistiaeth ddyrchafol sy’n tarddu o’i ymwybyddiaeth o dragwyddoldeb cylch y rhod: er gwaetha pob dinistr, bwrw ymlaen yw rhaid mawr y ddaear a’r ddynoliaeth fel ei gilydd.”

Un o’r rhesymau eraill y mae’n sôn iddo fod yn fardd mor bwysig yw oherwydd ei fod yn cofnodi ffordd o fyw:

“…mae’n bwysig oherwydd mae’n gofnodydd ffordd o fyw yr amaethwr a mynd a dod bywyd cefn gwlad yn ail hanner yr Ugeinfed Ganrif; ffordd o fyw a fydd yn ddieithr iawn, o bosib, i rai o ddarllenwyr Cymraeg y dyfodol.”

‘Amrywiaeth’

Yn ôl Ceri Wyn Jones mae’r amrywiaeth sydd i’w gweld yn y gyfrol yn “adlewyrchaid cwbwl naturiol o’r amrywiaeth (o ran pynciau, ffurfiau, cyweiriau ac ati) sydd yn holl gyfrolau Dic.”

“Roedd Dic yn enwog yn y Gymru Gymraeg ac yn sicr roedd ei ddyrchafu’n Archdderwydd wedi ei osod yn amlwg iawn yn llygad y cyhoedd,” meddai’r golygydd.

“Ond nid hyd nes iddo farw y daeth y Gymru Gymraeg honno i wir werthfawrogi ei fawredd – ac i werthfawrogi taw’r cerddi yn y pendraw a enillodd iddo’r enwogrwydd hwnnw ac a dystiodd i’r mawredd hwnnw.

“Ac mae pobol yn awyddus felly i fynd nôl at y cerddi hyn (neu gael eu gweld am y tro cyntaf, efallai) er mwyn gwerthfawrogi drostyn’ nhw eu hunain athrylith Dic Jones. Ac mae cael trwch ei gerddi mewn un gyfrol glawr caled, hylaw a hardd, yn gwneud y dasg honno yn un hawdd iawn.”

Mae’r golygydd yn dweud fod y broses o ddethol gwaith yn fodd i’w “atgoffa o ragoriaeth Dic fel bardd – ac yn fodd i fi sylwi ar rai o’i driciau barddol a chynganeddol mwyaf cyfrwys!”

Mae hefyd yn datgan i’r broses roi “esgus proffesiynol” iddo “ailddarllen drosodd a throsodd fy hoff gerdd Gymraeg, sef ei awdl ‘Y Gwanwyn’.”

Atgofion

Mae’r golygydd yn dweud fod ganddo “gant a mil o atgofion” o Dic Jones, un o’i gyfeillion “mewn eisteddfod, talwrn ac ymryson (lle’r oedd e’n wrthwynebydd ffyrnig!), ac mewn cyfarfodydd llenyddol llai ffurfiol, ac am sgyrsiau ar hap hwnt ac yma, sgyrsiau a fyddai wastad yn difyrru a herio dyn.” Yn benodol, mae’n son am iddo gael y “fraint o feirniadu’r Gadair ar y cyd â Dic a Gerallt Lloyd Owen yn Abertawe.”

“Dic oedd yn traddodi, a Gerallt a minnau’n sefyll y tu ôl iddo ac yn gweld fod yr ‘autocue’ wedi mynd ar gyfeiliorn! Ond doedd dim ots yn y byd. Roedd Dic, yn ôl ei arfer, wedi dysgu ei feirniadaeth ar ei gof, ac aeth ymlaen yn ysgubol.

“Ond, wrth ddod lawr o’r llwyfan a mynd nôl i’n seddi, dyma Dic yn troi ata’i gyda’r llinell o gynghanedd ysgubol: “‘Autocue’ yn ‘all-to-cock’!”

“Braint a chyfrifoldeb aruthrol oedd derbyn gwahoddiad Gwasg Gomer i ddethol y cerddi hyn. Roeddwn am wneud cyfiawnder ag enw da Dic fel bardd, ac roedd y ddyletswydd honno’n fater o falchder ‘proffesiynol’, fel petai, ond hefyd yn fater o deyrngarwch i Dic, ac i deulu’r Hendre i gyd.”