Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn ifanc lleol gael ei anafu’n ddifrifol yn Aberdar yr wythnos ddiwethaf.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn Nhre Telynog, Cwmbach, Aberdâr tua 9.20pm, nos Iau, pryd y cafodd y dyn 22 oed ei daro gyda bat pêl fas.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Tywysog Charles, ac ers hynny, mae wedi’i drosglwyddo i Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd am ragor o driniaeth. Dyw’r Heddlu ddim yn credu bod ei anafiadau’n rhai sy’n peryglu ei fywyd.

Eisoes, mae dyn 21 blwydd oed wedi’i arestio a’i gyhuddo o ymosod. Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Aberdâr yn ddiweddarach y mis hwn.

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda’r Heddlu ar 01685 724284 neu’n ddienw gyda Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.