Mae llywodraeth Japan wedi ymddiheuro i grŵp o gyn-garcharorion yr Ail Ryfel Byd o America, gan gydnabod eu bod wedi cael eu cam-drin yn greulon.
Dywedodd arweinydd y criw o gyn-garcharorion, Lester Tenney, gŵr 90 oed a oroesodd ‘orymdaith marwolaeth’ Bataan yn 1942, ei fod yn croesawu ymddiheuriad gweinidog tramor y wlad.
Fodd bynnag, mae’n dal i geisio cael cydnabyddiaeth debyg gan gwmnïau preifat a ddefnyddiodd garcharorion yn eu mwyngloddiau a’u ffatrioedd, yn aml o dan amodau truenus.
Y criw o gyn-garcharorion oedrannus, gydag un mewn cadair olwyn, yw’r criw cyntaf o gyn-garcharorion o America i ymweld gyda nawdd y llywodraeth, er bod grwpiau o garcharorion o wledydd eraill wedi cael eu gwahodd yn y gorffennol.