Mae’r Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, Andrew Mitchell, wedi dechrau adolygiad brys i’r treuliau sy’n cael eu hawlio gan weithwyr mewn corff dyngarol.
Mae penaethiaid Corfforaeth Ddatblygu’r Gymanwlad i fod i helpu busnesau mewn gwledydd tlawd ond, yn ôl papur y Daily Mail, maen nhw wedi bod yn hawlio arian trethdalwyr am filiau tacsi mawr, gwestai moethus a’r bwytai gorau.
Roedd un cinio ar gyfer cyfarwyddwyr anweithredol y gorfforaeth yn y bwyty sêr Michelin, L’Autre Pied, wedi costio £700, yn ôl dogfennau a gafwyd gan y papur dan Gais Rhyddid Gwybodaeth.
Yn ôl yr Adran Ddatblygu Ryngwladol, mae Andrew Mitchell wedi gorchymyn adolygiad brys i mewn i waith y Gorfforaeth.
‘Annerbyniol’
“Mae treuliau moethus yn gwbl annerbyniol,” meddai’r llefarydd. “Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi sefydlu adolygiad o bob agwedd ar waith y CDC, gan gynnwys cyflogau a thâl.
Yr honiad yw bod un pennaeth wedi hawlio £530 am un noson yng Ngwesty’r Four Seasons yn Hong Kong, a £661.48 am ddwy noson yng ngwesty pum seren y Portman Ritz Carlton yn Shanghai.
Yn ôl y papur, roedd y Prif Weithredwr Richard Laing wedi hawlio £ 7,414 mewn costau’r llynedd, gan gynnwys £ 1,557 am dacsis yn Llundain a £254 am noson yng ngwesty pum seren Fullerton.
‘Rhesymol’
Mae llefarydd ar ran y Gorfforaeth wedi mynnu bod yr holl dreuliau’n “rhesymol”.
Dywedodd wrth y papur: “Mae ein tîm buddsoddi yn treulio llawer iawn o amser yn teithio a d’yn ni ddim yn credu ei bod yn afresymol iddyn nhw aros mewn gwesty gweddus sy’n caniatáu iddyn nhw wneud eu gwaith yn iawn.”
“Rydym yn credu fod yr holl dreuliau yr ‘yn ni’n eu gwario yn sgil busnes yn rhesymol,” meddai.
Llun: Gwesty’r Four Seasons Hong Kong (o wefan y gwesty)