Fe fydd Llywodraeth Cymru’n ceisio gwarchod ysgolion, sgiliau ac ysbytai rhag y toriadau mewn gwario cyhoeddus, meddai’r Prif Weinidog.

Fe ddywedodd Carwyn Jones hefyd y bydden nhw’n ceisio cadw at addewidion a wnaed adeg yr etholiadau diwetha’ – er enghraifft tros bresgripsiynau am ddim a nofio am ddim.

Ond, wrth siarad gyda Radio Cymru, fe rybuddiodd bod y Llywodraeth yn paratoi ar gyfer toriadau o 3% mewn gwario o flwyddyn i flwyddyn a 10% mewn gwario ar gynlluniau cyfalaf.

Er bod ansicrwydd am faint y toriadau a gaiff eu cyhoeddi ym mis Hydref, roedd pob argoel, meddai, bod yr amcangyfri’ hwnnw’n agos ati.

Torri mewn llefydd ‘llai pwysig’

“R’ych chi’n torri’r ardaloedd sydd ddim mor bwysig mewn awyrgylch anodd,” meddai. “A r’ych chi’n cadw’r pethau sy’n bwysig, yn enwedig i bobol sydd gyda’r tlota’ mewn cymdeithas.”

Fe honnodd nad oedd hi ddim yn bosib gwarchod yr holl wario ar feysydd fel addysg ac iechyd gan fod y rheiny’n gyfrifol am 80% o holl wario Llywodraeth Cynulliad Cymru – pe bai’r rheiny’n cael eu gwarchod yn llwyr, fyddai dim arian o gwbl i adrannau fel Amaeth, meddai.

Ond roedd eisiau codi hyder pobol ar gyfer y dyfodol, meddai, gan ddweud na fyddai’r amgylchiadau’n para’n anodd am gyfnod hir iawn.

“Mae’n bwysig peidio â’i orwneud e,” meddai. “Mae’n rhaid rhoi gobaith i bobol hefyd.”

Llun: Carwyn Jones