Fe fydd mam sydd wedi’i chyhuddo o lofruddio ei mab awtistig yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd heddiw i bledio un ffordd neu’r llall.

Mae Yvonne Freaney, 49, o Stryd Salop, Penarth, wedi’i chyhuddo o lofruddio ei mab 11 mlwydd oed Glen a oedd yn ddifrifol o anabl.

Fe ddaethpwyd o hyd i gorff y plentyn yng Ngwesty’r Sky Plaza ger Maes Awyr Caerdydd ym mis Mai.

Roedd Yvone Freaney ar ei phen ei hun yn yr ystafell gyda’r bachgen ond mae’n bosibl ei fod wedi marw hyd at 48 awr yn gynharach.

Ers ymddangos yn y llys am y tro cynta’ ym mis Mai, mae Yvonne Freaney wedi ei chadw mewn uned iechyd meddwl diogel ym Mhen y Bont ar Ogwr.

Bwriad y gwrandawiad heddiw yw derbyn ei phle a threfnu sut i gynnal yr achos.

Llun: Glen Freaney (Heddlu De Cymru)